Roger Boore
Cyhoeddwr llyfrau ac awdur oedd Roger Pryse Boore (28 Medi 1938 – 30 Gorffennaf 2021). Mae'n fwyaf adnabyddus am sefydlu Gwasg y Dref Wen gyda'i wraig Anne yn 1969, gyda'r nod yn bennaf o gyhoeddi llyfrau Cymraeg o safon uchel i blant. Roedd hefyd yn awdur llyfrau teithio Cymraeg.[1]
Roger Boore | |
---|---|
Ganwyd | 28 Medi 1938 Caerdydd |
Bu farw | 30 Gorffennaf 2021 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, person busnes |
Bywyd cynnar
golyguGaned yng Nghaerdydd yn 1938, ond magwyd yn Leamington Spa, Warwickshire, Lloegr. Addysgwyd yn Ysgol Warwick a Choleg Iesu, Rhydychen. Enillodd radd yn y Clasuron ("Literae Humaniores") yn Rhydychen yn 1961 a PhD mewn Hanes ym Mhrifysgol Cymru Abertawe yn 2005. Aeth ymlaen i fod yn gyfrifydd siartredig. Dysgodd Gymraeg ar ôl i’w deulu golli’r iaith.[2][3][4]
Gyrfa
golyguEf a’i wraig Anne a sefydlodd Wasg y Dref Wen, Caerdydd, yn 1969-70, gyda phwyslais ar lyfrau Cymraeg i blant, gan ddechrau â rhai lliwgar storïol ac ehangu i lyfrau addysgol, llyfrau dwyieithog ac eraill.[2][5] Ymhlith y llaweroedd o gyhoeddiadau’r wasg dan ei reolaeth roedd Llyfr Hwiangerddi y Dref Wen, Y Geiriadur Lliwgar, a'r cyfresi "Storïau Hanes Cymru" ac "O’r Dechrau i’r Diwedd" (am grefyddau). Trosodd Roger Boore nifer o lyfrau plant i’r Gymraeg o amryw ieithoedd, yn cynnwys cyfrolau gwreiddiol Asterix a Tintin a'r clasur Y Teigr a Ddaeth i De.
Yn 1997 dyfarnwyd iddo Dlws Mary Vaughan Jones am ei “gyfraniad nodedig i faes llyfrau plant yng Nghymru dros gyfnod o flynyddoedd”[4][6] ac yn 2016 derbyniwyd yn aelod o Orsedd y Beirdd, Wisg Las, am ei “wasanaeth i’r genedl”.[7][8]
Enillodd Roger Boore gystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor a'r cylch 1971 a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Pantyfedwen 1972. Yn ogystal â’i drosiadau, cyhoeddodd un casgliad o straeon byrion, un nofel i blant a chyfres arloesol o bum llyfr taith.
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod ag Anne a cawsant tri mab, Gwilym, Rhys ag Alun. Yn dilyn ei ymddeoliad yn 1999, ei blant oedd yn rhedeg y wasg.
Llyfryddiaeth i blant
golygu- Hoff Hwiangerddi (2001)
- Y Bachgen Gwyllt (nofel, 1995). Caerdydd, Dref Wen. ISBN 1-85596-186-5
Llyfryddiaeth i oedolion
golygu- Taith i Rufain (2018). Caerdydd, Dref Wen. ISBN 978-1-78423-079-1
- Taith trwy Dde Sbaen (2012). Caerdydd, Dref Wen. ISBN 978-1-85596-952-0
- Glas y Sierra: Taith trwy ddwyrain Sbaen (2010). Caerdydd, Dref Wen. ISBN 978-1-85596-895-0
- Marchogion Crwydrol: Taith trwy berfeddwlad Sbaen (2010).Caerdydd, Dref Wen. ISBN 978-1-85596-857-8
- Taith i Awstralia (2008). Caerdydd, Dref Wen. ISBN 978-1-85596-816-5
- Llyfrau Plant mewn Ieithoedd Lleiafrifol (1978). Caerdydd, Dref Wen
- Ymerodraeth y Cymry (straeon byrion, 1973). Caerdydd, Dref Wen
Gwobrau ac Anrhydeddau
golygu- Cystadleuaeth stori fer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor, 1971
- Y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Pantyfedwen 1972
- Tlws Mary Vaughan Jones 1997
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Adnabod Awdur: Roger Boore". Llais Llên, BBC Cymru. 2008-12-11. Cyrchwyd 2008-12-11.
- ↑ 2.0 2.1 "Cyhoeddwr sydd am addasu'r llyfrau gorau ar gyfer plant Cymru". Y Cymro. 1970-09-30.
- ↑ Creber, Paul (1973-11-22). "One-man band with a critic. aged five". The Western Mail.
- ↑ 4.0 4.1 Griffiths, Gwyn (1997-07-02). "Dod â goreuon byd i blant Cymru". Y Cymro.
- ↑ Shankland, Liz (1993-03-24). "Family affairs". Family Life, The Western Mail.
- ↑ Basini, Mario (1997-10-04). "Hard going in the tough world of publishing". The Western Mail.
- ↑ "Cymru "yn dod yn fyw"". Golwg. 4-8-2016.
- ↑ "Anrhydeddau'r Orsedd 2016 / Gorsedd Honours for 2016". Anrhydeddau'r Orsedd 2016 / Gorsedd Honours for 2016. 2016-05-06. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21.