Y Tywysog Edward, Dug Caeredin
mab ieuengaf Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig
Brawd ieuengaf Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig, yw Edward Anthony Richard Louis, Dug Caeredin (ganwyd 10 Mawrth 1964).
Y Tywysog Edward | |
---|---|
Dug Caeredin | |
Edward yn 2022 | |
Ganwyd | Edward Anthony Richard Louis 10 Mawrth 1964 Palas Buckingham, Llundain, Lloegr |
Priod | Sophie Rhys-Jones (pr. 1999) |
Plant |
|
Teulu | Windsor |
Tad | Y Tywysog Philip |
Mam | Elisabeth II |
Cafodd ei eni ym Mhalas Buckingham, yn fab i'r Frenhines Elisabeth II a'i gŵr y Tywysog Philip, Dug Caeredin. Priododd Sophie Rhys-Jones ar 19 Mehefin 1999, ac ar y diwrnod hwnnw rhoddwyd y teitl Iarll Wessex iddo. Gwnaed ef yn Ddug Caeredin ar ei ben-blwydd yn 59 oed yn 2023.
Mae'n is-Noddwr Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad.
Plant
golygu- Y Fonesig Louise Windsor (g. 2003)
- James, Iarll Wessex (g. 2007)
Eginyn erthygl sydd uchod am frenhiniaeth neu aelod o deulu brenhinol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.