Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig
Brenin y Deyrnas Unedig a 14 teyrnas arall y Gymanwlad yw Siarl III (Charles Philip Arthur George; ganwyd 14 Tachwedd 1948).[1][2] Roedd wedi bod yn etifedd eglur am y mwyafrif helaeth o'i fywyd pan ddaeth yn frenin yn 73 oed yn 2022, wedi marwolaeth ei fam Elisabeth II.
Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig | |
---|---|
![]() | |
Llais | King Charles Addresses Scottish Parliament - 12 September 2022.flac ![]() |
Ganwyd | 14 Tachwedd 1948 ![]() Palas Buckingham ![]() |
Swydd | Brenin y Deyrnas Unedig a theyrnasoedd eraill y Gymanwlad |
Tad | y Tywysog Philip, Dug Caeredin ![]() |
Mam | Elisabeth II ![]() |
Priod | Diana, Tywysoges Cymru, Camilla, Brenhines Gydweddog y Deyrnas Unedig ![]() |
Plant | wiliam Mountbatten-Windsor, y Tywysog Harri, Dug Sussex ![]() |
Perthnasau | Tom Parker Bowles, Laura Lopes ![]() |
Llinach | Tŷ Windsor ![]() |
Chwaraeon | |
llofnod | |
![]() |
Cafodd ei eni ym Mhalas Buckingham, gyda'r teitl Y Tywysog Siarl o Gaeredin. Fe'i wnaed yn Dywysog Cymru yn 1958.
Gelwir ef yng Nghymru yn aml yn Carlo, ar ôl cân enwog Dafydd Iwan o'r un enw, a oedd yn boblogaidd iawn yng Nghymru adeg ei arwisgo yn 1969.
Daeth ei arwisgo yn fater gwleidyddol a dadleuol iawn. Roedd twf Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn ofid i'r Blaid Lafur a gwelodd George Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, gyfle i wrthweithio'r tyfiant hwn wrth drefnu arwisgo'r tywysog yng Nghaernarfon yn 1969. Roedd y genhedlaeth ifanc o genedlaetholwyr yn gweld hyn yn sarhâd ar Gymru ac ar yr iaith.[3]
Bu George Thomas yn ddigon cyfrwys i gael y tywysog yn fyfyriwr yng ngholeg Aberystwyth am dri mis i ddysgu'r Gymraeg. Ond pan ymwelodd Charles ag Eisteddfod yr Urdd a gwneud ei araith yn Gymraeg protestiodd nifer o'r bobl ifanc a cherdded allan. Cynhaliwyd rali enfawr yn erbyn yr arwisgo yng Nghilmeri.
Cafodd Siarl a'i ail gwraig Camilla eu seremoni i goroni ar 6 Mai 2023 yn Llundain.
Gwragedd golygu
- Y Fonesig Diana Spencer (1961–1997)
- Camilla Parker-Bowles (g. 1947)
Plant golygu
- Y Tywysog Wiliam (ganwyd 21 Mehefin 1982)
- Y Tywysog Harri (ganwyd 15 Medi 1984)
Gweler hefyd golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Y Brenin Charles III i annerch y DU am y tro cyntaf , BBC Cymru Fyw, 9 Medi 2022.
- ↑ 'Y Brenin Charles, nid Siarl, yn swyddogol yn Gymraeg' , BBC Cymru Fyw, 2 Tachwedd 2022.
- ↑ Dafydd Iwan yn cwrdd â'r Tywysog Charles am y tro cyntaf , BBC Cymru Fyw, 6 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd ar 9 Medi 2022.
Rhagflaenydd: Y Tywysog Edward (hyd 1936) |
Tywysog Cymru 1958 – 2022 |
Olynydd: Y Tywysog Wiliam |
Rhagflaenydd: Elisabeth II |
Brenin y Deyrnas Unedig 2022 – |
Olynydd: i'w bennu |