Penglog
(Ailgyfeiriad o Y benglog)
Fframwaith esgyrnog neu gartilagaidd pen y fertebratau ydy penglog, a hwnnw'n rhoi ffurf ac amddiffyniad i'r pen. Yn ogystal ag amddiffyn yr ymennydd yn y pen rhag niwed mae siâp y benglog yn pennu pellter y llygaid oddi wrth ei gilydd ac yn lleoli'r clustiau yn y fath fodd fel y gall y clyw farnu cyfeiriad a phellter sŵn.
Math o gyfrwng | israniad organeb, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | structure with developmental contribution from neural crest, endid anatomegol arbennig, subdivision of skeletal system |
Rhan o | axial skeleton |
Cysylltir gyda | cervical spine |
Yn cynnwys | craniwm, mandibl dynol, niwrocraniwm, facial skeleton, calvaria, base of skull, parietal bone |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae dwy ran iddi sef y creuan (craniwm) ac asgwrn yr ên (genogl, mandibl). Creuanogion yw'r cordogion hynny sydd â chreuan ac fe'i defnyddir fel cyfystyr am ‘fertebratau’ mewn rhai trefnau dosbarthu. Ymhellach isrannir y creuan yn badell yr ymennydd (niwrocraniwm) ac yn sgerbwd yr wyneb (fiscerocraniwm) sy'n cynnwys cwpanau esgyrnog yr organau synhwyro.