Y tramor cyfagos
Yn iaith wleidyddol Ffederasiwn Rwsia a rhai o gyn-weriniaethau eraill yr Undeb Sofietaidd, mae'r term y tramor cyfagos (Rwseg: ближнее зарубежье, blizhneye zarubezhye) yn cyfeirio at y gweriniaethau newydd-annibynnol a ddaeth allan o ddiddymiad yr Undeb Sofietaidd, ac weithiau gwledydd cyfagos eraill megis y Ffindir a Mongolia. Poblogeiddiodd Andrey Kozyrev, Gweinidog Tramor Rwsia, y term ar ddechrau'r 1990au i gyfeirio at ganolbarth a dwyrain Ewrop, a defnyddir y term yn aml, er enghraifft gan Vladimir Putin, i ddisgrifio ardal sydd yn strategol bwysig i Rwsia ac yn rhan o'i maes dylanwad. Defnyddir i gyfeirio at nifer o wledydd yn Nwyrain Ewrop, y Cawcasws, Canolbarth Asia, ac hyd yn oed y gwledydd Baltig er bod y rhain yn tueddu i wahanu eu hunain o Foscfa ar y lwyfan ryngwladol heddiw.