Diddymiad yr Undeb Sofietaidd
Diddymiad strwythurau gwleidyddol ffederal a llywodraeth ganolog yr Undeb Sofietaidd (UGSS) oedd diddymiad yr Undeb Sofietaidd neu gwymp yr Undeb Sofietaidd a arweiniodd at annibyniaeth i bob un o'r bymtheg gweriniaeth Sofietaidd rhwng 11 Mawrth 1990 a 25 Rhagfyr 1991.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | diddymu endid tiriogaethol gweinyddol, end cause ![]() |
Math | diddymiad, Q1228968 ![]() |
Dyddiad | 26 Rhagfyr 1991 ![]() |
Achos | Perestroika, leniniaeth, declaration of state sovereignty of the russian soviet federative socialist republic ![]() |
Rhagflaenwyd gan | pro-independence movements in the Russian Civil War ![]() |
Olynwyd gan | hypothetical dissolution of the Russian Federation ![]() |
Lleoliad | Yr Undeb Sofietaidd ![]() |
Gwladwriaeth | Yr Undeb Sofietaidd ![]() |
![]() |
Yr achos uniongyrchol oedd methiant yr arweinydd Sofietaidd Mikhail Gorbachev i ailfywhau economi ei wlad trwy geisio rhyddfrydoli'r Undeb Sofietaidd yn wleidyddol trwy glasnost a perestroika, er yr oedd UGSS yn wladwriaeth un-blaid gomiwnyddol.
Canlyniad ehangach y diddymiad oedd cwymp comiwnyddiaeth fel ideoleg fyd-eang rhwng 1989 a 1991 a diwedd y Rhyfel Oer. Digwyddodd y diddymiad yn sgîl Chwyldroadau 1989 a ddaeth â newidiadau gwleidyddol i nifer o wledydd y Bloc Dwyreiniol, gan gynnwys Gwlad Pwyl, Dwyrain yr Almaen, Rwmania, Hwngari, Bwlgaria, a Tsiecoslofacia. Ymhen ychydig o flynyddoedd bu diddymiad heddychlon yn Tsiecoslofacia ym 1993, a chyfres o ryfeloedd trwy'r 1990au wrth i Iwgoslafia chwalu.
Daeth i'r Undeb Sofietaidd yn gyfreithiol i ben yng Cytundebau Belovezh a arwyddwyd rhwng arweinwyr Rwsia, Belarws ac Wcráin ym mis Rhagfyr 1991. Daeth y Cytundebau yma ddad-wneud Cytundeb Creu yr Undeb Sofietaidd yn 1922. Yn sgil y Cytundebau yma daeth Ffederasiwn Rwsia yn olynydd-aelod yr Undeb Sofietaidd yn y Cenhedloedd Unedig.