Cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd
Y 15 gwladwriaeth annibynnol a ddaeth allan o ddiddymiad yr Undeb Sofietaidd yn Rhagfyr 1991 yw cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd.
Enghraifft o'r canlynol | ardal ddiwylliannol, geopolitical group ![]() |
---|---|
Dechreuwyd | Chwefror 1992 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Yr Undeb Sofietaidd ![]() |
Lleoliad | Estonia, Latfia, Lithwania, Casachstan, Cirgistan, Tajicistan, Tyrcmenistan, Wsbecistan, Belarws, Moldofa, Wcráin, Rwsia, Armenia, Aserbaijan, Georgia ![]() |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d0/USSR_Republics_Numbered_Alphabetically.png/350px-USSR_Republics_Numbered_Alphabetically.png)
1. Armenia; 2. Aserbaijan; 3. Belarws; 4. Estonia;
5. Georgia; 6. Casachstan; 7. Cirgistan; 8. Latfia;
9. Lithwania; 10. Moldofa; 11. Ffederasiwn Rwsia; 12. Tajicistan;
13. Tyrcmenistan; 14. Wcrain; 15. Wsbecistan
Yn iaith wleidyddol Ffederasiwn Rwsia a rhai o gyn-weriniaethau eraill yr Undeb Sofietaidd, mae'r term y tramor cyfagos yn cyfeirio at y gweriniaethau newydd-annibynnol a ddaeth allan o ddiddymiad yr Undeb Sofietaidd, ac weithiau gwledydd cyfagos eraill megis y Ffindir a Mongolia. Poblogeiddiodd Andrey Kozyrev, Gweinidog Tramor Rwsia, y term ar ddechrau'r 1990au i gyfeirio at ganolbarth a dwyrain Ewrop, a defnyddir y term yn aml, er enghraifft gan Vladimir Putin, i ddisgrifio ardal sydd yn strategol bwysig i Rwsia ac yn rhan o'i maes dylanwad. Defnyddir i gyfeirio at nifer o wledydd yn Nwyrain Ewrop, y Cawcasws, Canolbarth Asia, ac hyd yn oed y gwledydd Baltig er bod y rhain yn tueddu i wahanu eu hunain o Foscfa ar y lwyfan ryngwladol heddiw.