Ya d’ar brezhoneg
Ymgyrch dan arweiniad Ofis ar Brezhoneg (Cymraeg: Swyddfa'r Lydaweg), Ffrangeg: Office de la langue bretonne) i hyrwyddo'r defnydd o'r Lydaweg ym mywyd bob dydd holl bobl Llydaw yw Ya d’ar brezhoneg ("Ie i Lydaweg").
Mae dwy ran i'r cynllun:
- Ya d'ar brezhoneg 1
Cynllun ar gyfer cyrff megis busnesau, a chymdeithasau. Lansiwyd yr ymgyrch ar 5 Hydref 2001, yn Karaez. Daeth 177 o gyrff at ei gilydd i arwyddo cytundeb i ddatblygu'r defnydd o'r Lydaweg ar arwyddion a hyfforddi staff. Erbyn diwedd 2008, roedd 635 o gyrff wedi arwyddo, tua hanner yn fusnesi.
- Ya d'ar brezhoneg 2
Bwriedir y cynllun yma ar gyfer cynghorau o wahanol fathau, gyda siarter o bwyntiau i weithredu arnynt. Lansiwyd y cynllun yn Pontivy ar 22 Rhagfyr 2004. Erbyn Chwefror 2009, roedd 99 commune wedi arwyddo.