Yasser Arafat

(Ailgyfeiriad o Yasir Arafat)

Arweinydd gwleidyddol Palesteinaidd oedd Yasser Arafat (24 Awst 192911 Tachwedd 2004). Ganwyd yn ninas Cairo, yr Aifft, ac ystyriwyd ef yn ymladdwr dros ryddid Palesteina gan ei gefnogwyr ac fel terfysgwr gan eraill megis Israel. Roedd yn gyd-sefydlydd Mudiad Rhyddid Palesteina (y PLO) a'i gadeirydd o 1969 ymlaen, ac o dan faner y mudiad hwnnw bu'n gyfrifol am lu o ymosodiadau ar dargedau Israelaidd ac Arabiaidd fel ei gilydd. Daeth wedyn yn Llywydd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina trwy fod yn Arlywydd Cyngor Deddfwriaethol Palesteina, ac yn gyd-enillydd Gwobr Heddwch Nobel yn 1994, gyda Shimon Peres a Yitzhak Rabin.

Yasser Arafat
Ganwydمحمد ياسر عبد الرحمن عبد الرؤوف عرفات Edit this on Wikidata
4 Awst 1929 Edit this on Wikidata
Cairo Edit this on Wikidata
Bu farw11 Tachwedd 2004 Edit this on Wikidata
Clamart, Hôpital d'instruction des armées Percy Edit this on Wikidata
Man preswylMughrabi Quarter Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Cairo Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, peiriannydd sifil Edit this on Wikidata
SwyddChairman of the Palestine Liberation Organization, Arlywydd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina, Arlywydd Gwladwriaeth Palesteina, Q117225148 Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolFatah Edit this on Wikidata
PriodSuha Arafat Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Gwobr Heddwch Nobel, Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Félix Houphouët-Boigny Peace Prize, Gwobr Tywysoges Asturias am Gydweithredu Rhyngwladol, Doublespeak Award, Grand Collar of the Order of Good Hope, Urdd Tywysog Yaroslav Gall, Dosbarth 1af, Urdd Playa Girón, honorary doctor of the University of Patras, Order of the Republic, Order of Ouissam Alaouite, Grand cross of the Order of the White Lion, Grand Collar Of The State Of Palestine Edit this on Wikidata
llofnod

Trwy'r rhan fwyaf o'i yrfa, bu'n brwydro dros ddileu'r Wladwriaeth Iddewig, ac er iddo gydnabod hawl Israel i fodoli yn yr 1990au cynnar, roedd llawer o Iddewon yn dal i fod yn ddrwgdybus ohono. Bu hefyd yn gorfod brwydro gydag arweinwyr rhai gwledydd Arabaidd eraill, fel yr Aifft a Gwlad Iorddonen, a oedd yn gweld ei fudiad yn fygythiad i'w hawdurdod.

Mynnodd Bassam Abu Sharif, sef cyn ymgynghorydd Arafat i Mossad wenwyno Arafat drwy roi gwenwyn yn ei fedyginiaeth.[1] Ond mynnodd rhai Israeliaid blaenllaw mai gwenwyn bwyd oedd yr achos dros ei farwolaeth.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Israeli Mossad poisoned Arafat through his medications". Unknown parameter |gwaith= ignored (help); Unknown parameter |adalwyd= ignored (help)


  Eginyn erthygl sydd uchod am Balesteina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato