Yasser Arafat
Arweinydd gwleidyddol o Balesteina oedd Yasser Arafat (24 Awst 1929 – 11 Tachwedd 2004). Ganwyd yn ninas Cairo, yr Aifft, ac ystyriwyd ef yn ymladdwr dros ryddid Palesteina gan ei gefnogwyr ac fel terfysgwr gan eraill megis Israel. Roedd yn gyd-sefydlydd Mudiad Rhyddid Palesteina (y PLO) a'i gadeirydd o 1969 ymlaen, ac o dan faner y mudiad hwnnw bu'n gyfrifol am lu o ymosodiadau ar dargedau Israelaidd ac Arabiaidd fel ei gilydd. Daeth wedyn yn Llywydd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina trwy fod yn Arlywydd Cyngor Deddfwriaethol Palesteina, ac yn gyd-enillydd Gwobr Heddwch Nobel yn 1994, gyda Shimon Peres a Yitzhak Rabin.
Yasser Arafat | |
---|---|
Ganwyd | محمد ياسر عبد الرحمن عبد الرؤوف عرفات 4 Awst 1929, 24 Awst 1929 Cairo |
Bu farw | 11 Tachwedd 2004 Clamart, Hôpital d'instruction des armées Percy |
Man preswyl | Al-Maghariba Quarter |
Dinasyddiaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, peiriannydd sifil |
Swydd | Chairman of the Executive Committee of the Palestine Liberation Organization, Arlywydd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina, Arlywydd Gwladwriaeth Palesteina, Q117225148 |
Plaid Wleidyddol | Fatah |
Tad | Abdel Raouf al-Qudwa al-Husseini |
Mam | Zahwa Abul Saud |
Priod | Suha Arafat |
Gwobr/au | Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Gwobr Heddwch Nobel, Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Félix Houphouët-Boigny Peace Prize, Gwobr Tywysoges Asturias am Gydweithredu Rhyngwladol, Doublespeak Award, Grand Collar of the Order of Good Hope, Urdd Tywysog Yaroslav Gall, Dosbarth 1af, Urdd Playa Girón, honorary doctor of the University of Patras, Order of the Republic, Order of Ouissam Alaouite, Grand cross of the Order of the White Lion, Uwch Dorch Gwladwriaeth Palesteina, Urdd Gwladwriaeth Palesteina, Order of Good Hope, Urdd Anrhydedd Gweriniaeth yr Eidal, Order of the Great September Revolution 1969, Urdd Teilyngdod Dinesig, Urdd y Llew Gwyn, Order of the Grand Conqueror, Order "13 Centuries of Bulgaria", Gwobrau Tywysoges Asturias |
llofnod | |
Trwy'r rhan fwyaf o'i yrfa, bu'n brwydro dros ddileu'r Wladwriaeth Iddewig, ac er iddo gydnabod hawl Israel i fodoli yn yr 1990au cynnar, roedd llawer o Iddewon yn dal i fod yn ddrwgdybus ohono. Bu hefyd yn gorfod brwydro gydag arweinwyr rhai gwledydd Arabaidd eraill, fel yr Aifft a Gwlad Iorddonen, a oedd yn gweld ei fudiad yn fygythiad i'w hawdurdod.
Mynnodd Bassam Abu Sharif, sef cyn ymgynghorydd Arafat i Mossad wenwyno Arafat drwy roi gwenwyn yn ei fedyginiaeth.[1] Ond mynnodd rhai Israeliaid blaenllaw mai gwenwyn bwyd oedd yr achos dros ei farwolaeth.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Israeli Mossad poisoned Arafat through his medications". Unknown parameter
|gwaith=
ignored (help); Unknown parameter|adalwyd=
ignored (help)