Anifeiliaid mytholegol y ceir sawl cyfeiriad atynt yn chwedloniaeth, barddoniaeth a llên gwerin Cymru yw'r Ychen Bannog ('Ychen Corniog'). Roeddynt yn hynod gryf.

Ceir y cyfeiriad cynharaf atynt sydd ar glawr yn y chwedl enwog Culhwch ac Olwen lle y'u henwir yn Nynniaw a Pheibiaw. Un o'r 'anoethau' (tasgau rhyfeddol o anodd) a osodir ar yr arwr Culhwch gan Ysbaddaden Bencawr i ennill llaw ei ferch Olwen yw cael hyd i'r ddau ych a'u dwyn ynghyd i aredig:

Dau ychen bannog, y lleill ['y naill'] ysydd o'r parth hwnt i'r Mynydd Bannog a'r llall o'r parth hwn, ac eu dwyn i gyd dan yr un aradr. Ys hwy y rhai hynny, Nynniaw a Pheibiaw, a rithwys Duw yn ychen am eu pechod.[1]

Mewn chwedlau gwerin fe'u cysylltir â'r afanc oedd yn byw mewn pwll ar afon Conwy (Llyn yr Afanc). Dywedir iddynt dynnu'r afanc o'r afon. Dywedir hefyd iddynt lusgo carreg fawr i adeiladu eglwys Llanddewibrefi. Mewn chwedl arall, y cyfeirir ato mewn cerdd gan Tudur Aled, fe'u cysylltir â Llyn Syfaddon yn Sir Frycheiniog.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen, llau. 595-600. (Diweddarwyd yr orgraff.)
  2. T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-custom (1930; 1979), tud. 104.

Gweler hefyd

golygu