Mae ymarfer ysbrydol, disgyblaeth ysbrydol neu ymarferiad ysbrydol yn cynnwys unrhyw weithgaredd sy'n gysylltiol â diwyllio ysbrydolrwydd.

Arferion ysbrydol yn erbyn gweddïo golygu

Gwneir rhai arferion, megis myfyrio, yoga a llysieuaeth, am bwrpas ysbrydol, ac yn fwy cyffredin i grefydd y Dwyrain yn hytrach na'r Gorllewin. Mae'n bosibl y daeth y syniad hwn o'r canfyddiad fod gan grefydd y Dwyrain ragor o gyfriniaeth na chrefydd y Gorllewin. Gall y canfyddiad hwn fod yn gywir hyd at ryw raddfa, ond ceir traddodiadau crefyddol y Gorllewin sy'n cynnwys arferion a defodau/seremonïau cyfriniol a welir gan rai yn 'arferion ysbrydol.'

Wedi dweud hynny, mae crefyddau'r Gorllewin fel arfer yn canolbwyntio ar syniadau diwinyddol yn fwy nag yn y Dwyrain. Yn Islam, mae'r salah, er enghraifft, yn datgan y shahadah (sy'n datgan, "Nid oes Duw ond Duw a Mohamed yw Ei Negesydd"), ac mae gweddïo Cristnogaeth fel arfer yn canolbwyntio ar Dduw, Crist, neu amgylchoedd y person sy'n gweddïo. Mewn cyferbyniad â hyn, mae myfyrio Bwdhaidd yn canolbwyntio ar ddyfnhau ein profiad o'r meddwl neu o Fwdha ei hun, a gwelir y rhain hyn i fod yr un pethau. Yn Zen, mae'r kōans yn canolbwyntio ar baradocsau nad y gellir eu datrys fel offeryn i'w helpu gwacáu'r meddwl (anatta).

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysbrydolrwydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.