Ymddiriodolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion

Sefydlwyd yr Ymddiriodolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion ym 1946 yn Slimbridge gan Syr Peter Scott. Agorwyd y warchodfa er mwyn rhannu’r profiad gyda’r cyhoedd, a chyflwynodd o raglenni natur ar deledu BBC o’r warchodfa.[1]

Ymddiriodolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion
Enghraifft o'r canlynolsefydliad elusennol, cyhoeddwr mynediad agored Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1946 Edit this on Wikidata
SylfaenyddPeter Scott Edit this on Wikidata
Gweithwyr497, 441, 655, 576, 858 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsefydliad elusennol Edit this on Wikidata
PencadlysGwarchodfa natur Slimbridge Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.wwt.org.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwlyptir Martin Mere
Gwarchodfa natur Slimbridge
Fflamingod, Llanelli

Mae gan yr ymddidiodolaeth 10 canolfan:

Mae gwaith yr ymddiriodolaeth yn cynnwys gwarchod adar prin ac yna eu rhyddhau yn ôl i’w cynefinoedd naturiol. Dechreuodd y proses efo’r Nene, gwydd o Hawaii. Erbyn hyn, mae eu niferoedd wedi ailgodi o 30 i dros 2,000 ers 1962. Diolch i waith Gwarchodfa Caerlaverock, cododd niferoedd gwyrain ar Ynys Sfalbard o 300 ym 1948 i 25,000 erbyn 1999. Ailgyflwynwyd Corhwyaden Laysan i Hawaii yn 2005, a’r Garan i Loegr yn 2010, wedi absenoldeb o 400 mlynedd.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Tudalen hanes ar wefan yr Ymddiriodolaeth". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-17. Cyrchwyd 2018-02-28.

Dolen allanol

golygu