Gwarchodfa natur Llanelli
Mae Gwarchodfa natur Llanelli un o 9 gwarchodfa wedi eu rheoli gan Ymddiriodolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion. Lleolir y warchodfa 1 milltir i’r dwyrain o Lanelli. Maint y warchodfa yw 450 erw, yn cynnwys llynnau, pwllau a nentydd ar ymylon morfa Aber Llwchwr.
Math | gwarchodfa natur |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 200 ha |
Cyfesurynnau | 51.665°N 4.125°W |
Cod post | SA14 9SH |
Rheolir gan | Ymddiriodolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion |
Agorwyd y warchodfa ar 17 Ebrill, 1991 gan David Attenborough[1]. Fel gwarchodfeydd eraill yr ymddiriedolaeth, mae rhan o’r safle’n cynnwys adar cynhenid megis Pioden y môr, Pibydd y traeth a choesgoch, a rhan arall yn cynnwys adar gweddill y byd, megis Fflamingo. Mae’r warchodfa yn nodweddol am nifer sylweddol o lygod y dŵr. Gwelir Rhostog gynffonddu, Coeswerdd, Gylfinir, Hwyaden lostfain, Hwyaden yr eithin, Hwyaden lydanbig, Gïach, Corhwyaden, Crëyr bach, Dwrgi, Crëyr glas, Cornchwiglen, Gwyach, Hwyaden bengoch, Bras y cyrs, Llwydfron fach, Troellwr bach, Telor Cetti, Gwylan benddu, Crëyr mawr gwyn, Gwalch glas, ac Aderyn y bwn.[2]