Gwarchodfa Natur Genedlaethol Caerlaverock
Gwarchodfa Natur yn Dumfries a Galloway, yr Alban yw Gwarchodfa Natur Genedlaethol Caerlaverock. Un o warchodfeydd yr Ymddiriodolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion yw hi. Maint y warchodfa yw 1400 erw.[1] Mae’r warchodfa’n nodedig am Gwyddau gwyrain ac Elyrch y Gogledd.[2] Mae dros 40,000 o wyddau gwyrain yn ymweld yn flynyddol o Svalbard. Gwelir Hebog tramor, Boda tinwyn a Boda gwerni’n hela. Mae Alarch dof, Hwyaden wyllt, Chwiwell, Hwyaden gopog, Pibydd llydanbig, Corhwyaden, Gŵydd lwyd, Rhegen y dŵr, Gwyach gorniog, Rhostog Gynffonddu, Gylfinir, Cornchwiglen, Bras y Cyrs, Bras Melyn, Dryw Eurben, Dringwr Bach, Llinos,Coch y Berllan, Hwyaden benddu ac Alarch Bewick hefyd, a gwelir Gwennol y Bondo dros yr haf, Socan Eira ac Adain Coch dros yr hydref.[1] Mae pâr o weilch wedi nythu yn y warchodfa ers 2003. Gwelir y nyth trwy webcam yn ystod y tymor nythu (Ebrill i Awst).[3] Cedwir Defaid Shetland i bori'r glaswellt.
Math | Gwarchodfa Natur Genedlaethol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dumfries a Galloway |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 54.96°N 3.47°W |
Agorwyd canolfan addysg ym mis Ionawr 2002 gan Frenin Harald V o Norwy.[4]
Gweinyddir gan NatureScot.
Oriel
golygu-
Elyrch y gogledd
-
Chwiwellau
-
Gwyddau troedbinc
-
Llwybr trwy'r warchodfa
-
Hwyaden wyllt
-
Chwiwell
-
Defaid Shetland
-
Llydanbig
-
Buwch hirgorn
-
Ji-binc