Ymosodiadau Charlie Hebdo

Ymosodiad terfysgol angeuol ar bencadlys y cylchgrawn dychanol wythnosol Charlie Hebdo ym Mharis, 7 Ionawr 2015, oedd ymosodiadau Charlie Hebdo. Lladdwyd 12 person, gan gynnwys 2 heddwas, ac anafwyd 11 - 4 ohonynt yn ddifriol.[1] Roedd yr darlunwyr Charb, Cabu, Honoré, Tignous, Wolinski, a'r economegydd Bernard Maris ymysg y meirw.

Ymosodiadau Charlie Hebdo
Mathsaethu torfol, ymosodiad terfysgol Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Nifer a laddwyd12 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolJanuary 2015 Île-de-France attacks, terrorism in France Edit this on Wikidata
Lleoliad10, Rue Nicolas-Appert Edit this on Wikidata
Sir11th arrondissement of Paris Edit this on Wikidata
GwladFfrainc Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.8592°N 2.3703°E Edit this on Wikidata
Map
Cyfnod7 Ionawr 2015 Edit this on Wikidata


Ymosodiadau
Charlie Hebdo
Gwystlon
Montrouge
Saethu Porte de Vincennes
Ymosodiadau cysylltiedig ym Mharis

Hanes golygu

Am tua 11.30 y bore ar 7 Ionawr 2015, aeth dau ddyn wedi'u harfogi gyda reifflau AK-47, dryll pelets a grenad roced-yredig i swyddfeydd y cylchgrawn dychanol wythnosol. Saethodd y dynion hyd at 50 pelen gydag arfau awtomatig, tra oeddynt yn gweiddi "Allahu Akbar", sef "Mawr yw Duw" yn Arabeg.[2] Lladdwyd deuddeg o bobl, gan gynnwys y golygydd Stéphane "Charb" Charbonnier, saith person arall a oedd yn gweithio i Charlie Hebdo, a dau heddwas ac anafwyd 11 arall.[3][4][5] Yn y gorffennol, roedd y cylchgrawn wedi denu sylw'r byd yn sgil ei ddarluniadau o Muhammed, sylfaenydd y crefydd Islam.[6]

Arestiodd yr heddlu nifer o bobl mewn cysylltiad â'r digwyddiad tra bod yn chwilio am y ddau ymosodwr. Yn wreiddiol, cafodd trydydd person drwgdybiedig ei adnabod gan yr heddlu ac ildiodd ef ei hun i'r awdurdodau. Disgrifwyd yr ymosodwyr fel pobl "arfog a pheryglus" gan yr heddlu, a chodwyd y lefel bygythiad i'w statws uchaf posib yn Île-de-France a Picardie. Ar 9 Ionawr, canfuwyd yr ymosodwyr mewn ystad ddiwydiannol yn Dammartin-en-Goële, lle roedd ganddynt wystl.[7]

Cysylltwyd y saethu yn swyddfeydd Charlie Hebdo ag achos arall o saethu yn Montrouge a chanfuwyd bod pedwerydd person drwgdybiedig. Roedd y dyn hwn wedi cipio gwystlon hefyd mewn archfarchnad kosher yn Porte de Vincennes.[8] Gwnaeth yr heddlu gyrchoedd ar yr un pryd yn Dammartin ac yn Porte de Vincennes; lladdwyd tri terfysgwr, a lladdwyd neu anafwyd rhai gwystlon.[9] Cadarnhaodd Arlywydd Ffrainc François Hollande fod pedwar gwystl wedi'u lladd yn yr archfarchnad yn Vincennes, a chadarnhaodd yr erlynydd eu bod wedi'u lladd cyn i'r heddlu weithredu.[10][11] Mae pumed person drwgdybiedig yn dal heb ei dal.[12]

Lladdwyd cyfanswm o ugain person mewn pedwar lleoliad gwahanol rhwng 7 a 9 Ionawr, yn cynnwys y tri therfysgwr ac anafwyd o leiaf un ar hugain o bobl eraill, rhai ohonynt yn ddifrifol. Dyma oedd ymosodiad terfysgol gwaethaf Ffrainc ers Bom tren Vitry-Le-François 1961 gan yr Organisation de l'armée secrète (OAS).[13]

Cyhoeddodd gweddill staff Charlie Hebdo y byddai'r cylchgrawn yn parhau fel arfer, gyda chynlluniau i argraffu miliwn o gopîau o'r rhifyn nesaf, yn hytrach na'i 60,000 arferol.[14][15]

Ymateb golygu

 
Yr arddull fel a ddefnyddiwyd ar wefan y cylchgrawn.

Yn dilyn yr ymosodiadau hyn cafwyd condemniad o weithredoedd y terfysgwyr gan nifer o wledydd y byd a bathwyd y slogan "Je suis Charlie", Ffrangeg am: "Fi ydy Charlie") gan gefnogwyr ryddid barn a gwrthwynebiad i derfysgaeth ledled y byd. Dechreuwyd ei ddefnyddio ar 'Twitter' ac ymledodd fel tân gwyllt. Symbol arall a ddaeth i'r amlwg drwy'r cyfryngau torfol oedd y y bensel.[16]

Bron yn syth ar ôl y saethu daeth 35,000 o bobl at ei gilydd ym Mharis i ddangos eu cefnogaeth i'r rhai a fu farw, ac i ryddid barn. Ymledodd y protestiadau hyn drwy'r byd gan ddod i'w hanterth ar benwythnos y 10-1fed o Ionawr. Cerddodd dros 700,000 o bobl mewn protest yn Ffrainc ar y 10fed o Ionawr, a chafwyd gorymdeithiau tebyg yn: Toulouse (gyda 100,000), Marseille (45,000), Lille (35–40,000), Nice (23–30,000), Pau (80,000), Nantes (75,000), Orléans (22,000), a Caen (6,000).[17]

Dywed awdurdodau Ffrainc i dair miliwn o bobl orymdeithio ar y dydd Sul.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Comment s'est déroulée l'attaque contre "Charlie Hebdo" (yn Ffrangeg) Le Monde 07-01-2015
  2.  Charlie Hebdo attack – latest (7 Ionawr 2015).
  3.  Police converge on area north-east of Paris in hunt for Charlie Hebdo gunmen (8 Ionawr 2015).
  4.  Gun attack on French magazine Charlie Hebdo kills 11. BBC News (7 Ionawr 2015).
  5.  Charlie Hebdo attack: 12 dead in Paris, manhunt on. CNN.
  6.  Charlie Hebdo: Major manhunt for Paris gunmen. BBC News.
  7.  Charlie Hebdo: major operation north-east of Paris in hunt for suspects – live updates. The Guardian.
  8.  EN DIRECT. Porte de Vincennes: 5 personnes retenues en otage dans une épicerie casher. Le Parisien (9 Ionawr 2015).
  9.  EN DIRECT – Les frères Kouachi et le tireur de Montrouge abattus simultanément. Le Figaro.
  10.  Quatre otages tués à Paris dans une supérette casher. Libération (9 Ionawr 2015).
  11.  Matthew Weaver. Charlie Hebdo attack: French officials establish link between gunmen in both attacks — live. the Guardian.
  12.  BFMTV. Hayat Boumeddiene, la femme la plus recherchée de France.
  13.  L'attentat le plus meurtrier depuis Vitry-Le-François en 1961. Le Figaro (7 Ionawr 2015).
  14.  Charlie Hebdo will come out next week, despite bloodbath. The Times of India (8 Ionawr 2015).
  15.  Charlie Hebdo staff vow to print 1 m copies as French media support grows (8 Ionawr 2015).
  16. "image". enisyavuz.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-09. Cyrchwyd 8 Ionawr 2015.
  17. "Plus de 700 000 personnes défilent contre le terrorisme en France" (yn French). Le Monde.fr. AFP. 2015-01-10. Cyrchwyd 2015-01-11. Unknown parameter |trans_title= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)