Ynys Bolshevik
Ynys yn perthyn i Rwsia oddi ar arfordir gogleddol Siberia yw Ynys Bolshevik (Rwseg: о́стров Большеви́к). Hi yw'r fwyaf deheuol o ynysoedd mawr ynysfor Severnaya Zemlya, rhwng Môr Kara a Môr Laptev yng Nghefnfor yr Arctig. Mae tua 180 km o hyd a 111 km o led, gydag arwynebedd o 11,312 km², yr ail-fwyaf o ynysoedd Severnaya Zemlya. Nid oes poblogaeth barhaol arni. Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhanbarth Crai Krasnoyarsk.
Math | ynys |
---|---|
Enwyd ar ôl | Bolsiefic |
Poblogaeth | 0 |
Cylchfa amser | UTC+04:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Severnaya Zemlya |
Lleoliad | Cefnfor yr Arctig |
Sir | Taymyrsky Dolgano-Nenetsky District |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 11,206 km² |
Uwch y môr | 935 metr |
Gerllaw | Môr Kara, Môr Laptev |
Cyfesurynnau | 78.6092°N 102.9281°E |
Hyd | 149 cilometr |
Mae'r ynys yn fynyddig, gyda'r copa uchaf yn cyrraedd 935 medr. Ceir gorsaf wyddonol Prima ar yr ynys. Gorchuddir tua 30% o'r ynys gan rew, a cheir tri rhewlif yma. Yn ddiweddar, bu ymgyrch i geisio newid yr enw i Svyataya Olga ("Santes Olga").