Ynys Dulas

ynys yng Nghymru

Ynys fechan greigiog ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Ynys Môn yw Ynys Dulas. Saif ychydig i'r gogledd-ddwyrain o Draeth Dulas yng nghymuned Llaneilian.

Ynys Dulas
Mathynys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3833°N 4.25°W Edit this on Wikidata
Map

Nid oes neb yn byw ar yr ynys, ond yng nghyfnod y llongau hwyliau yr oedd llongddrylliadau yn digwydd mor aml yma nes i adeilad gael ei godi ar yr ynys fel noddfa i forwyr. Dywedir i'r adeilad yma, sydd ar ffurf tŵr, gael ei godi yn 1824 gan y Fonesig Neave o Lysdulas.

Ceir poblogaeth o'r Morlo Llwyd ar yr ynys.

Ynys Dulas