Ynys Feurig
tair ynys a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru
Tair ynys fechan greigiog ar arfordir gogledd-orllewinol Ynys Môn gerllaw Rhosneigr yw Ynys Feurig (weithiau Ynys Feirig). Gyda'i gilydd, mae ganddynt arwynebedd o tua 3.1ha. Ar lanw isel mae modd cerdded iddynt. Maent yng nghymuned Llanfair-yn-Neubwll.
Math | ynys lanwol, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 25.38 ha |
Cyfesurynnau | 53.233624°N 4.540513°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Mae Ynys Feurig yn warchodfa adar sy'n cael ei rhedeg gan yr RSPB ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Ei phrif bwysigrwydd yw fel man nythu i fôr-wenoliaid; mae nifer o rywogaethau o fôr-wennol yn magu yma, yn cynnwys ychydig o barau o'r Fôr-wennol wridog, er mai dim ond yn ysbeidiol y mae'r rhywogaeth yma wedi ei chofnodi yno yn y blynyddoedd diwethaf. Gwaherddir glanio ar yr ynysoedd yn y tymor nythu.