Ynys Komsomolets
Ynys yn perthyn i Rwsia oddi ar arfordir gogleddol Siberia yw Ynys Komsomolets (Rwseg: остров Комсомолец). Hi yw'r fwyaf gogleddol o ynysoedd Severnaya Zemlya. Mae tua 146 km o hyd a 113 km o led, gydag arwynebedd o 9,006 km². Nid oes poblogaeth barhaol arni. Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhanbarth Crai Krasnoyarsk.
![]() | |
Math | ynys ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | All-Union Leninist Young Communist League ![]() |
Poblogaeth | 0 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+04:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Severnaya Zemlya ![]() |
Lleoliad | Môr Kara ![]() |
Sir | Crai Krasnoyarsk ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 9,006 km² ![]() |
Uwch y môr | 935 metr ![]() |
Gerllaw | Môr Kara, Môr Laptev ![]() |
Cyfesurynnau | 80.4842°N 94.9964°E ![]() |
Hyd | 120 cilometr ![]() |
![]() | |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/80/Komsomolets_Island.svg/250px-Komsomolets_Island.svg.png)
Gorchuddir tua 65% o'r ynys gan rew, gan gynnwys maes rhew mwyaf Rwsia. Enwyd yr ynys gan y fforwyr Rwsaidd Georgy Ushakov a Nikolay Urvantsev yn 1930-32, er anrhydedd i aelodau'r Komsomol, yr "Undeb Comiwnyddol Ieuenctid". Yn ddiweddar, bu ymgyrch i geisio newid yr enw i Svyataya Mariya ("Santes Fair").