Ynys Oktyabrskoy Revolyutsii
Ynys yn perthyn i Rwsia oddi ar arfordir gogleddol Siberia yw Ynys Oktyabrskoy Revolyutsii (Rwseg: Остров Октябрьской Революции, Ostrov Oktyabrskoy Revolyutsii, "Ynys Gwrthfyfel yr Hydref"). Hi yw'r 65ed ynys mwyaf yn y byd a'r fwyaf o ynysoedd ynysfor Severnaya Zemlya.[1] Mae tua 157 km o hyd a 146 km o led, gydag arwynebedd o 14,170 km². Nid oes poblogaeth barhaol arni. Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhanbarth Crai Krasnoyarsk.
Math | ynys |
---|---|
Enwyd ar ôl | Chwyldro Hydref |
Poblogaeth | 0 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Severnaya Zemlya |
Lleoliad | Cefnfor yr Arctig |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 14,204 km² |
Uwch y môr | 965 metr |
Gerllaw | Môr Kara, Môr Laptev |
Cyfesurynnau | 79.48°N 96.83°E |
Hyd | 143 cilometr |
Mae'r ynys yn fynyddig, gyda'r copa uchaf, Mynydd Karpinsky, yn cyrraedd 965 medr. Gorchuddir canol yr ynys gan rew, gyda rhewlifoedd yn cyrraedd y môr. Yn ddiweddar, bu ymgyrch i geisio newid yr enw i Svyataya Alexandra ("Santes Alexandra").