Ynys Welltog
ynys fechan yn Afon Menai gerllaw Porthaethwy, a saif rhwng Ynys Dysilio ac Ynys Gored Goch.
Ynys fechan yn Afon Menai gerllaw Porthaethwy, yn weddol agos i lan Ynys Môn ydy Ynys Welltog. Saif rhwng Ynys Dysilio ac Ynys Gored Goch.
Math |
ynys ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad |
Afon Menai ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.222064°N 4.174697°W ![]() |
![]() | |
Nid oes cofnod i neb fod yn byw ar yr ynys, sy'n cynnwys creigiau ac ychydig o goed isel. Yn 2003 a 2004 nythodd nifer o barau o'r Creyr Bach ar yr ynys yma, y tro cyntaf i'r rhywogaeth yma nythu yng ngogledd Cymru.