Un o'r ddwy brif ynys sy'n ffurfio, gyda'u rhagynysoedd, gwlad Seland Newydd yw Ynys y De[1] (Maori: Te Wai Pounamu; Saesneg: South Island). Mae'n cynnwys dinasoedd Christchurch, a Dunedin. Mae Culfor Cook yn gorwedd rhyngddi a'r ynys fawr arall, Ynys y Gogledd. I'r gorllewin ceir Môr Tasman ac i'r dwyrain ceir y Cefnfor Tawel. Mae ganddi arwynebedd o 151,215 km sgwar a phoblogaeth o 1,008,400 o bobl (2001). Mae hi'n ynys fynyddig lle ceir Alpau'r De sy'n cynnwys Aoraki (Mynydd Cook) (3,754 m), y mynydd uchaf ar yr ynys ac yn Seland Newydd gyfan.

Ynys y De
Mathynys Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlde Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,115,800 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+12:00, UTC+13:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSeland Newydd Edit this on Wikidata
SirSeland Newydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Seland Newydd Seland Newydd
Arwynebedd150,437 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Tasman Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.9833°S 170.45°E Edit this on Wikidata
NZ-S Edit this on Wikidata
Map
Map o Ynys y De

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 111.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Seland Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.