Grŵp o ynysoedd trofannol yn Ne Ddwyrain Asia ac ynysfor mwyaf y byd yw Ynysfor Maleia a leolir ar hyd ororau Cefnfor India â'r Cefnfor Tawel, rhwng gorynys Indo-Tsieina ac Awstralia. Mae'n cynnwys y 17,000 o ynysoedd yn Indonesia a'r 7,000 o ynysoedd yn y Philipinau, yn ogystal ag ynysoedd a rhannau o ynysoedd sydd yn eiddo i Frwnei, Dwyrain Timor, Maleisia, Papwa Gini Newydd, a Singapôr. Adwaenir yr ynysfor gan sawl term arall, gan gynnwys yr enw Indoneseg Nusantara a'r hen enw Ewropeaidd India'r Dwyrain.

Ynysfor Maleia
Map o'r byd yn dangos Ynysfor Maleia (gwyrdd).
Mathynysfor, grŵp, rhanbarth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladMaleisia, Indonesia, Singapôr, Brwnei, Dwyrain Timor, Papua Gini Newydd, y Philipinau Edit this on Wikidata
Arwynebedd2,000,000 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor India, Y Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau2.080582°S 126.546887°E Edit this on Wikidata
Map

Estynnir am ryw 6,000 km ar hyd y cyhydedd, gydag hyd o 3,500 km o'r gogledd i'r de ar ei fwyaf.[1] Mae'r amryw ynysoedd yn amgylchynu moroedd Sulu, Celebes, Manda, Molucca, Jawa, Flores, a Savu. Gwahanir yr ynysoedd oddi ar dir mawr Asia i'r gogledd-orllewin gan Gulfor Malacca a Môr De Tsieina, oddi ar ynys Taiwan i'r gogledd gan Sianel Bashi, ac oddi ar Awstralia i'r de gan Gulfor Torres.

Yn nhermau strwythur y Ddaear, rhennir Ynysfor Maleia yn dair rhan: Ysgafell Sunda, sydd yn rhan o ysgafell gyfandirol Indo-Tsieina ac yn cynnwys Sumatra, Jawa, a Borneo; Ysgafell Sahul, sydd yn cysylltu cyfandir Awstralia â Gini Newydd; a'r ardal rhyngddynt, sydd yn cynnwys nifer o ynysoedd llai o faint. Fel arfer, cynhwysir Gini Newydd—a rheolir gan Indonesia yn y gorllewin a Phapwa Gini Newydd yn y dwyrain—yn rhan o'r ynysfor, er nad yw'n rhan o'r un plât tectonig â'r holl ynysoedd eraill; ni fyth cynhwysir Ynysoedd Andaman a Nicobar i'r gorllewin, nac Ynysfor Bismarck i'r dwyrain, na Thaiwan i'r gogledd.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Malay Archipelago. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Gorffennaf 2022.