Delos
Mae Delos (Groeg: Δήλος, Dhilos) yn ynys yng nghanol y cylch o ynysoedd a elwir y Cyclades yng Ngwlad Groeg. Roedd yr ynys yn bwysig ym mytholeg Roeg; dywedid mai yma yr oedd man geni y duw Apollo a'r dduwies Artemis.
![]() | |
Math | ynys, polis, safle archaeolegol, Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 24 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cyclades ![]() |
Sir | Bwrdeistref Mykonos ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 350.64 ha ![]() |
Uwch y môr | 112 metr ![]() |
Gerllaw | Môr Aegeaidd ![]() |
Cyfesurynnau | 37.3933°N 25.2711°E ![]() |
Cod post | 846 00 ![]() |
Hyd | 5 cilometr ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | listed archaeological site in Greece, Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Manylion | |
Credir fod pobl wedi bod yn byw ar Delos ers y trydydd mileniwm cyn Crist. Yn ôl yr hanesydd Thucydides roedd y boblogaeth wreiddiol yn forladron Cariaidd, a yrrwyd o'r ynys gan y brenin Minos o ynys Creta. Erbyn cyfnod Homeros roedd yr ynys yn enwog fel man geni Apollo ac Artemis. Rhwng 900 CC a 100 OC., ystyrid Delos yn ynys sanctaidd, gyda theml i Dionysus yno hefyd.
Ar ôl Rhyfeloedd Groeg a Phersia, daeth Delos yn fan cyfarfod Cynghrair Delos, a sefydlwyd yn 478 CC, a chedwid trysorfa'r gynghrair yma hyd 454 CC pan y'i symudwyd i Athen gan Pericles. Ers 1873 mae'r École Française d'Athènes wedi bod yn cloddio yma, a gwnaed nifer fawr o ddarganfyddiadau. Yn 1990 cyhoeddwyd Delos yn Safle Treftadaeth y Byd.