Ynysoedd Samoa
Ynysfor yn Ne'r Cefnfor Tawel yw Ynysoedd Samoa sy'n cynnwys y wlad annibynnol Samoa, a'r diriogaeth Samoa America sydd dan reolaeth yr Unol Daleithiau. Mae trigolion yr ynysoedd yn bobl Bolynesaidd a elwir yn Samoaid, ac maent yn rhannu diwylliant a chymdeithas debyg gan gynnwys yr iaith Samöeg.
Math | ynysfor |
---|---|
Cylchfa amser | UTC−11:00 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Samoa, Unol Daleithiau America, Samoa America |
Arwynebedd | 3,030 km² |
Uwch y môr | 1,858 metr |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 14°S 171°W |
Yr Ewropead cyntaf i sbïo ar yr ynysoedd oedd yr Iseldirwr Jacob Roggeveen ym 1722. Hen enw arnynt ydy Ynysoedd y Mordwywyr[1] a roddwyd gan y fforiwr Ffrengig Louis-Antoine de Bougainville ym 1768.
Gweler hefyd
golygu- Logovi'i Mulipola, chwaraewr rygbi
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Robert Roberts, Daearyddiaeth (Caerlleon: J. Fletcher, 1816), t. 587.