Ynysoedd Tudwal
grŵp o ynysoedd yng Nghymru
Grŵp o ddwy ynys ac ynys lanw yng ngogledd Cymru, i'r de o Abersoch ac arfordir deheuol Llŷn, Gwynedd, ym mhen gorllewinol Bae Tremadog, yw Ynysoedd Tudwal.
Math | grŵp o ynysoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Môr Iwerddon |
Cyfesurynnau | 52.8°N 4.4667°W |
Daearyddiaeth
golyguCeir dwy brif ynys:
- Ynys Tudwal Fawr (i'r gorllewin); prynwyd yr ynys gan y fforiwr Bear Grylls yn 2009.[1]
- Ynys Tudwal Fach (i'r dwyrain); prynwyd gan yr awdures Carla Lane yn 1992.[2]
Yn ogystal ceir cerrig isel yn y môr tua hanner milltir i'r de ddwyrain o Ynys Tudwal Fawr, a elwir Carreg y Trai.
Ar Ynys Tudwal Fawr ceir goleudy.
Hanes
golyguCeir adfeilion hen briordy ar safle clas a gysylltir â Sant Tudwal ar yr ail ynys, Ynys Tudwal Fach.
Cadwraeth a natur
golyguMae'r ynysoedd yn adnabyddus am eu morloi. Mae Porth Ceiriad, Porth Neigwl ac Ynysoedd Tudwal yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan BBC Wales; adalwyd 01 Medi 2013.
- ↑ Marw awdures a pherchennog ynys yng Nghymru , Golwg360, 1 Mehefin 2016.