Yr Alltwen

bryngaer, Penmaenmawr

Bryn yn Sir Conwy yw'r Alltwen, sy'n gorwedd ger Bwlch Sychnant i'r dwyrain o bentref Dwygyfylchi yng ngogledd y sir, tua milltir o'r arfordir. Ceir bryngaer gynhanesyddol ar ei gopa. Er nad yw'n fryn uchel mae'n olygfa drawiadol o gyfeiriad y gorllewin. Mae'n gorwedd o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri.

Yr Alltwen
Mathbryngaer, caer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAlltwen Edit this on Wikidata
SirConwy
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2781°N 3.8829°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH74557733 Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map
Am y pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot, gweler Alltwen.

Lleoliad golygu

Mae'r bryn yn gorwedd rhwng Bwlch Sychnant, a groesir gan y lôn sy'n cysylltu trefi Penmaenmawr a Chonwy, a bryn Penmaen-bach (794 troedfedd) i'r gogledd. I'r dwyrain ceir llyn bychan ger fferm Pen-pyrrau sy'n gorwedd rhwng Yr Alltwen a chefn hir Mynydd y Dref ('Mynydd Conwy' neu 'Mynydd Caer Seion'). Bryn o garreg weinthfaen ydyw, creigiog gyda llawer o rug arno.

Bryngaer golygu

Ceir olion bryngaer o gyfnod Oes yr Haearn ar ben yr Alltwen. Mae'n gorwedd cwta milltir i'r gorllewin o fryngaer fawr Caer Seion, ar ben Mynydd y Dref. Ceir olion mur o gerrig ac eithrio ar yr ochr ddwyreiniol; ymddengys y defnyddiwyd y cerrig o'r rhan honno i godi waliau. Nid yw'r safle wedi cael ei gloddio gan archaeolegwyr eto.

Mynediad golygu

Gellir dringo'r Alltwen o sawl cyfeiriad. Y ffordd hawsaf ydyw dilyn un o'r llwybrau o ben Bwlch Sychnant, lle ceir maes parcio bychan. Gellir dilyn sawl llwybr o Ddwygyfylchi hefyd, yn cynnwys un sy'n cychwyn ger yr eglwys, ond mae hynny'n golygu tua 800 troedfedd o ddringo.