Dwygyfylchi (pentref)
Pentref yng nghymuned Penmaenmawr, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Dwygyfylchi.[1][2] Mae'n gorwedd ger yr arfordir wrth droed Bwlch Sychnant gyda phentref Penmaenmawr i'r gorllewin a thref Conwy dros y bryniau i'r dwyrain. Mae'n un o wardiau tref Penmaenmawr ond yn cael ei gyfrif ar wahân fel pentref.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Penmaenmawr |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.278°N 3.9°W |
Cod OS | SH736773 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Robin Millar (Ceidwadwyr) |
- Erthygl yw hon am bentref Dwygyfylchi: am y plwyf o'r un enw gweler Dwygyfylchi (plwyf).
Enwir y pentref ar ôl y plwyf hanesyddol o'r un enw (gweler Dwygyfylchi (plwyf)). Ceir peth dryswch hyd yn oed yn lleol ynglŷn ag enw'r pentref. Capelulo, a enwir ar ôl y sant cynnar Ulo, oedd cnewyllyn hanesyddol y pentref, wrth droed Bwlch Sychnant, ond wrth i'r pentref dyfu yn is i lawr tua glan y môr o'r 18g ymlaen, mabwysiadwyd enw'r plwyf ar gyfer y pentref cyfan. Mae union ystyr yr enw yn ansicr. Mae'n deillio efallai o'r hen air dwy ('dwyfol' neu 'sanctaidd', hefyd 'duw' neu 'dduwies') a cyfylchi, gair Cymraeg Canol anghyffredin iawn sy'n golygu 'caer' efallai.
Mae'r pentref yn gorwedd yn hanner dwyreiniol y llecyn eang o dir isel rhwng mynydd y Penmaen-mawr i'r gorllewin a'r Penmaen-bach i'r dwyrain, gyda chaeau gwyrdd a chraig trawiadol Trwyn yr Wylfa yn ei gwahanu oddi ar gweddill Penmaenmawr. Gan fod y pentref chwarel a thref glan môr a dyfodd yn yr hanner gorllewinol yn ddiweddarach, cyfeirir at Ddwygyfylchi yn lleol fel "Yr Hen Bentref."
Eglwys Gwynin Sant yw eglwys y plwyf. Nid yw'r eglwys bresennol yn hen iawn ond bu eglwys yma yn yr Oesoedd Canol a oedd ym meddiant Abaty Aberconwy. Cafodd yr hen eglwys ei hailadeiladu o'r newydd bron yn 1760, a dim ond darn o ffenestr o'r 16g sy'n aros ohoni; ailadeiladwyd rhan helaeth yr adeilad hwnnw yn ei dro yn y 19g. Mae Syr John Wynn o Wydir yn cyfeirio ati ac yn dweud bod Gwynan a'i frawd Boda, meibion Helig ap Glannog, wedi eu claddu yno.[3]
Cyfyd bryn Yr Alltwen, a goronir gan olion bryngaer, tu ôl i'r pentref, rhwng Penmaen-bach a Bwlch Sychnant. Mae lôn yr A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn gorwedd rhwng y pentref a'r traeth tywodlyd, ond gellir croesi pont cerddwyr i'w gyrraedd.
Tyfodd y pentref yn gyflym yn yr 20g. Codwyd sawl ystad o dai cyngor ac ers hynny mae stadau eraill wedi eu codi hefyd.
Mae'r mwyafrif o blant ifanc y pentref yn mynychu Ysgol Capelulo.
Ceir Clwb Golff Penmaenmawr yn rhan uchaf y pentref, wrth ymyl y lôn i Fwlch Sychnant. Mae'n un o'r clybiau golff hynaf yng ngogledd Cymru.
Gweler hefyd
golygu- Dwygyfylchi (plwyf)
- Penmaenmawr (tref)
- Penmaen-mawr (mynydd)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 24 Tachwedd 2021
- ↑ H. Hughes a H. L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; arg. newydd, Capel Curig, 1984).
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan