Band roc Cymraeg o ardal Abertawe ydy Yr Angen. Cystadleuodd y band yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau ar C2 yn 2010 gan ddod yn fuddugol gyda'r gân 'Nawr Mae Drosto'.[1] Aelodau'r band ydy Jac Davies (prif leisydd, gitar rythm), Jamie Price (gitar flaen), Gareth Jones (gitar fas) a Dai Williams (drymiau). Mynychodd holl aelodau'r band Ysgol Gyfun Gŵyr yn Nhregwyr, Abertawe.

Yr Angen
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Pan yn rhoi eu beirniadaeth ar y bandiau yn y rownd derfynol, dywedodd Ian Cottrell fod 'Nawr Mae Drosto' yn "hit radio enfawr.... hit stadiwm enfawr".[2] Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan fod y band "wedi datblygu y tu hwnt i bob disgwyl" gan ychwanegu fod y "band yn mynd i ddatblygu mwy na) i'r hyn y maen nhw'n gallu ei ddychmygu nawr."[2] Ychwanegodd Bethan Elfyn at hyn gan nodi eu bod "nhw'n fand cyffrous ar gyfer y sîn a fyddwn i'n barod iawn i roi grŵp fel yma mewn sesiwn gan eu bod yn swnio fel bod ganddyn nhw ganeuon a bod popeth yn barod i fynd."[2]

Cyrhaeddodd y band rif 10 yn siart C2 ar 5 Gorffennaf 2010. Hefyd perfformiodd y band ar raglen olaf y rhaglen teledu 'Mosgito' ar y 15 Gorffennaf yn perfformio eu cân 'Gad Dy Wallt Lawr'. Yn ystod haf 2010 chwaraeodd y band yn Yr Wythnos Fach i BBC Radio 1[3] , Maes B, Gŵyl Bro Dinefwr a Sioe Frenhinol Cymru. Yn ogystal roedd y band hefyd wedi recordio sesiwn ar gyfer C2, ac wedi perfformio ar Maes B 2011 gydag Elin Fflur ac Al Lewis Band. Chwaraeodd y band sesiwn acwstig i raglen Dodd Com ar C2 ar 21 Ebrill yn perfformio tair cân gan gynnwys trac newydd a oedd yn cael ei chwarae'n fyw am y tro cyntaf. Cafodd y trac 'Boi Bach Skint' o sesiwn C2 y band cael ei defnyddio ar sawl hysbysebiad ar BBC 1 a BBC 2 yn hyrwyddo digwyddiadau ar draws Cymru dros Haf 2011. Rhyddhaodd y band eu halbwm cyntaf Gorffen Nos ar 9 Rhagfyr 2011.

Discograffiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Brwydr Y Bandiau 2010 - Yr Angen. Gwefan C2 BBC Radio Cymru. Adalwyd ar 27-04-2010
  2. 2.0 2.1 2.2 Rhaglen Magi Dodd. Radio Cymru; 21 Ebrill 2010
  3. Gwefan Yr Wythnos Fach BBC Radio 1 Adalwyd ar 17-07-2010