Yr Arloeswr (cylchgrawn)
(Ailgyfeiriad o Yr Arloeswr (Cylchgrawn))
Cylchgrawn llenyddol chwarterol, Cymraeg oedd Yr Arloeswr a gyhoeddwyd rhwng 1957 a 1960. Cyhoeddwyd Yr Arloeswr gan ei olygyddion, R. Gerallt Jones a Bedwyr Lewis Jones, gyda chyfraniadau gan gyfrannwyr megis Gwyn Thomas a Bobi Jones. Roedd yn cynnwys storïau byrion, cerddi ac adolygiadau llyfrau, ac weithiau waith celf.
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn, cylchgrawn |
---|---|
Golygydd | R. Gerallt Jones, Bedwyr Lewis Jones |
Cyhoeddwr | R. Gerallt Jones, Bedwyr Lewis Jones |
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1957 |
Lleoliad cyhoeddi | Bangor |
Prif bwnc | llenyddiaeth Cymru |
Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido yn rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dolen allanol
golygu- Yr Arloeswr ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein