Bedwyr Lewis Jones
Ysgolhaig a beirniad llenyddol oedd yr Athro Bedwyr Lewis Jones (1 Medi 1933 – 29 Awst 1992), a aned yn Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru.
Bedwyr Lewis Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1933 |
Bu farw | 1992, 28 Awst 1992 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Magwyd Bedwyr Lewis Jones ym mhentref bach Llaneilian, Ynys Môn. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor a Choleg Iesu, Rhydychen.
Rhwng 1957 a 1960 bu'n un o olygyddion y cylchgrawn llenyddol blaengar Yr Arloeswr. Fe'i penodwyd yn Athro'r Gymraeg ym Mangor yn 1974 a bu yno am ddeunaw mlynedd hyd at ei farwolaeth yn 1992.
Fel ysgolhaig ymddiddorai yn hanes yr emynwyr Cymraeg, y traddodiad Arthuraidd, ieithyddiaeth a'r ieithoedd Celtaidd a gwaith R. Williams Parry. Roedd yn feirniad craff ond caredig ac yn ffigwr poblogaidd, agos atoch. Roedd wrth ei fodd efo geiriau ac ymadroddion a'u tarddiad a chyfranodd yn gyson i'r Western Mail yn ei golofn wythnosol "Y Ditectif Geiriau".
Llyfryddiaeth
golyguMae ei gyfrolau'n cynnwys:
- Blas ar Iaith Llŷn ac Eifionydd (Gwasg Carreg Gwalch, 1987)
- Yr Hen Bersoniaid Llengar (1963)
- Arthur y Cymry (1975)
- Iaith Sir Fôn (1983)
- Yn Ei Elfen (1992)
- cyfrol ar R. Williams Parry yn y gyfres Dawn Dweud (golygwyd a chwblheuwyd gan Gwyn Thomas
- cyfrol ar R. Williams Parry yn y gyfresWriters of Wales.
Yn ogystal golygodd,
- Blodeugerdd o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (1965)
- Rhyddiaith R. Williams Parry (1974)
- Gwŷr Môn (1979)
- Bro'r Eisteddfod: Ynys Môn (1983, ar y cyd â Derec Llwyd Morgan.