Yr Ymddiriedolaethau Natur

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur (weithiau hefyd yn Ymddiredolaethau Bywyd Gwyllt, Saesneg: The Wildlife Trusts), enw masnachu Cymdeithas Frenhinol yr Ymddiriedolaethau Natur, yn gorff sy'n cynnwys 46 o Ymddiriedolaethau Natur lleol yn Lloegr, Cymru, yr Alban, Gogledd Iweddon, Ynys Manaw ac Alderney . Mae'r Ymddiriedolaethau Natur, rhyngddynt, yn gofalu am tua 2,300 o warchodfeydd natur sy'n gorchuddio dros 98,000 hectar o dir. Yn 2017, roedd ganddynt gyfanswm o dros 800,000 o aelodau.[1]

Mae Cymdeithas Frenhinol yr Ymddiriedolaethau Natur (The Royal Society of Wildlife Trusts) yn elusen annibynnol,[2] gydag aelodaeth o'r 46 Ymddiriedolaeth elusennol unigol. Mae'n gweithredu fel grŵp ymbarél ar gyfer yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt unigol, yn ogystal â gweithredu Uned Grantiau ar wahân sy'n gweinyddu nifer o gronfeydd.

Sefydlwyd yr Ymddiredolaethau Natur gyntaf gan Charles Rothschild ym 1912 fel Cymdeithas Hyrwyddo Gwarchodfeydd Natur (The Society for the Promotion of Nature Reserves). Ei nod yn y lle cyntaf oedd llunio rhestr o'r safleoedd bywyd gwyllt gorau gyda'r bwriad o'u prynu i'w troi'n warchodfeydd natur. Erbyn 1915 roedd y rhestr yn cynnwys 284 o safloedd, a elwir yn Warchodfeydd Rothschild.[3] Yn ystod y blynyddoedd cynnar, roedd yr aelodau'n dueddol o fod yn naturiaethwyr arbenigol a chymharol araf oedd ei dwf. Ffurfiwyd yr Ymddiriedolaeth annibynnol gyntaf yn Norfolk yn 1926 fel Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Norfolk, a ddilynwyd yn 1938 gan Gymdeithas Amddiffyn Adar Sir Benfro, sydd bellach yn Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Nid tan yr 1940au a 1950au y ffurfiwyd mwy o Ymddiriedolaethau Naturiaethwyr yn Swydd Efrog, Swydd Lincoln, Swydd Gaerlŷr a Swydd Gaergrawnt. Roedd yr Ymddiriedolaethau cynnar hyn yn tueddu i ganolbwyntio ar brynu tir i sefydlu gwarchodfeydd natur yn yr ardaloedd daearyddol yr oeddent yn eu gwasanaethu.

Wedi'i annog gan y nifer cynyddol o Ymddiriedolaethau, sefydlwyd Cymdeithas i Hyrwyddo Gwarchodfeydd Natur (The Society for the Promotion of Nature Reserves) yn 1957 i drafod y posibilrwydd o ffurfio ffederasiwn cenedlaethol o Ymddiriedolaethau Naturiaethwyr. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Caint yn 1958 gyda'r Gymdeithas hon yn weithgar wrth annog ei ffurfio. Yn y flwyddyn ganlynol sefydlodd y Gymdeithas Bwyllgor Naturiaethwyr y Sir, a drefnodd y gynhadledd genedlaethol gyntaf ar gyfer Ymddiriedolaethau Naturiaethwyr yn Skegness yn 1960. Erbyn 1964, roedd nifer yr Ymddiriedolaethau wedi cynyddu i 36 ac roedd y Gymdeithas ar gyfer Hyrwyddo Gwarchodfeydd Natur wedi newid ei henw i'r Gymdeithas ar gyfer Hyrwyddo Cadwraeth Natur (The Society for the Promotion of Nature Conservation). I gydnabod pwysigrwydd cynyddol y mudiad, newidiwyd ei enw i Gymdeithas Frenhinol Cadwraeth Natur (The Royal Society for Nature Conservation) yn 1981. Mae'r sefydliad bellach yn cael ei adnabod fel Cymdeithas Frenhinol yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt.

Parhaodd y mudiad i ddatblygu drwy gydol y 1970au ac, erbyn dechrau'r 1980au, roedd y rhan fwyaf o Ymddiriedolaethau heddiw wedi'u sefydlu. Yn 1980, sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth Natur drefol gyntaf (sef Ymddiriedolaeth Natur Birmingham a'r Wlad Ddu erbyn hyn ) yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, wedi'i dilyn yn fuan wedyn gan eraill yn Llundain, Bryste a Sheffield. Roedd hwn yn drobwynt i'r mudiad a gryfhaodd ei ffocws ar fywyd gwyllt a phobl. Yn ystod y cyfnod hwn, newidiodd rhai Ymddiriedolaethau eu henwau o Gymdeithasau Naturiaethol i Ymddiriedolaethau Cadwraeth Natur, ac yna i Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt. Mabwysiadwyd logo'r mochyn daear gan y mudiad i sefydlu ei hunaniaeth gyffredin.

Wrth i nifer yr Ymddiriedolaethau dyfu, felly hefyd eu haelodaeth gyfunol, o 3,000 ym 1960 i 21,000 yn 1965. Daeth 100,000 o aelodau i ben yn 1975, ac yn y flwyddyn honno lansiwyd 'Wildlife Watch' fel clwb naturiaethwyr i blant. Erbyn diwedd yr 1980au roedd aelodaeth wedi cyrraedd 200,000, gan gynyddu i 260,000 ym 1995, a thros 500,000 erbyn 2004. Roedd yr aelodaeth gyfunol yn 2007 yn 670,000 o aelodau, gyda 108,000 yn perthyn i gangen Bywyd Gwyllt y gangen iau.

Cyfeiriadau golygu

  1. "About". The Wildlife Trusts. Cyrchwyd 16 June 2017.
  2. The Charity Commission, Charity 20738
  3. "The Rothschild Reserves". The Wildlife Trusts. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 October 2013. Cyrchwyd 7 December 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)