Ysbryd Lincoln
Mae wedi bod sawl stori am ysbrydion cyn arlywyddion yn ail-ymweld á'r ty Gwyn, o bosib yr un mwyaf cyffredin a phoblogaidd yw ysbryd Abraham Lincoln. Yn ól y són mae ysbryd Lincoln, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Ysbryd y Ty Gwyn, wedi fod yn aflonyddu'r ty ers iddo farw ym 1865.
Traddodiad
golyguCredir fod Lincoln wedi disgwyl ei lofruddiad. Yn ól Ward Hill Lamon, ffrind a chofiannydd i Lincoln, trafododd Lincoln freuddwyd cafodd gyda Lamon ac eraill tair diwrnod cyn ei lofruddiad, gan ddweud:
Tua deg diwrnod yn ól fe wnes i fynd i'r gwely yn hwyr iawn. Roeddwn wedi aros lan yn disgwyl adroddiadau pwysig o'r ffrynt. Does bosib fy mod wedi bod yn fy ngwely am yn hir iawn cyn i mi gwympo i gysgu, gan roeddwn yn flinedgig.Dechreuais freuddwydio yn fuan. Mae'n ymddangos fel yr oedd ryw llonyddwch marwol amdanai. Yna clywais feichiadau tynner, fel yr oedd nifer o bobl yn wylo. Roeddwn yn credu fy mod wedi gadael fy ngwely a wedi crwydro lawr star. Yna, roedd y tawelwch wedi ei darfu gan yr un beichiad truenus, ond roedd y galarwyr yn anweledig. Fe es o ystafell i ystafell; doedd yna ddim yn person byw i'w weld, ond roedd yr un synau galar yn fy nghroesawu wrth i mi gerdded heibio. Mi welais y golau ym mhob ystafell; roedd pob peth yn gyfarwydd i mi; ond lle roedd yr holl bobl oedd yn galaru petai eu calonnau yn torri? Roeddwn wedi drysu ac wedi dychryn. Beth allai fod ystyr hyn i gyd? Yn benderfynol o ddarganfod yr achos i sefyllfa mor rhyfedd a mor ofnadwy, fe es i ymlaen tan i mi gyrradd yr Ystafell Ddwyrain, fe es i mewn. Yna, ges i fy nghyfarch gan arswyd ffiaidd. O'm blaen i roedd yna catafalque, ag arno fe orffwyswyd corff wedi ei lapio mewn urddwisg angladd. O'i gwmpas roedd yna milwyr yn eu safleoedd ag oedd yn ymddwyn fel gwarcharodwyr; ac roedd yna torf o bobl, yn edrych ymlaen yn syllgar galarus at y corff, a'i wyneb wedi'i orchuddio, roedd eraill yn wylo'n truenus. 'Pwy sy'n farw yn y Ty Gwyn?' gorchmynais i un o'r milwyr, 'yr Arlywydd,' roedd ei ateb; 'cafodd ei ladd gan lofrudd.' Yna ddaeth ffrwydiad mawr o alaru wrth y torf, fe ddihunodd fi o'r freuddwyd. Ni chysgais mwy y noson honno; ac er mai dim on breuddwyd oedd e, rwyf wedi fy nghynhyrfu ganddo ers hynny.
'Then came a loud burst of grief from the crowd, which woke me from my dream. I slept no more that night; and although it was only a dream, I have been strangely annoyed by it ever since.[1]
Ar diwrnod y llofruddiad, fe ddywedodd Lincoln wrth ei warchodwr, William H. Crook ei fod wedi bod yn cael breuddwydion o'i hun yn cael ei lofruddio am tair noson ar y tro. Ceisiodd Crook berswadio'r Arlwyddyn i beidio mynychu perfformiad o'r ddrama 'Our American Cousin' yn Theatr Ford y noson honno, neu i oleia ei adael ef i fynd fel warchodwr ychwanegol iddo, ond dywedodd Lincoln ei fod wedi addo ei wraig y byddent yn mynd. Wrth i Lincoln adael i fynd i'r theatr, troeodd i Crook a dywedodd 'hwylfawr, Crook.' Yn ól Crook, dyma'r tro cynta dywedodd Lincoln hynny. Yng nghynt, byddai Lincoln wedi dweud 'nos da, Crook.' Nes ymlaen, wnaeth Crook dwyn i'w góf 'Hwnna oedd y tro cynta iddo peidio dweud nos da a hwnna oedd yr unig tro iddo ddweud hwylfawr i mi. Meddyliais am y peth ar yr eiliad yna ac, rhai oriau yn ddiweddarach, pan teithiodd y newyddion dros Washington ei fod e wedi cael ei saethu, roedd ei eiriau olaf wedi eu llosgi ynof cymaint, ni ellir byth cael eu anghofio."
Ymddangosiad honedig mwyaf enwog y Ty Gwyn yw hynny o Abraham Lincoln. Yn ól pob golwg, yn un o ffotograffiau mwyaf enwog Mumler mae'n dangos Mary Todd Lincoln gyda'r "ysbryd" o'i gwr. Abraham Lincoln. Yn ei lyfr 'Ghosts Caught on Film', mae'r ymchwilydd goruwchnaturiol Merlvyn Willin, yn honni fod y llun wedi ei gymryd tua 1869 (ar ól farwolaeth Lincoln), ac nad oedd Mumler yn gwybod mai Lincoln oedd ei eisteddwr, yn hytrach roedd yn credu mai 'Mrs Tundall' oedd hi. Mae Willin yn mynd ymlaen i ddweud fod Mumler heb ddarganfod pwy oedd ei eisteddwr tan wr ól i'r llun gael ei brosesu. The College of Psychic Studies, wrth gyfeirio at notiadau yn biau i William Stainton Moses (sy'n ymddangos mewn ffotograffiau gan ffotograffwyr ysbrydol eraill), yn honni fod y llun wedi ei gymryd yn yr 1870'au cynnar, cymerodd Lincoln yr enw 'Mrs.Landall' ac chafodd ei annog gan wraig Mulmer (a oedd yn cyfrwngwraig) i cydnabod ei gwr yn y llun[2]. Er fod y llun wedi cael ei wrthod fel datguddiad ddwbwl dameiniol[3] mae wedi cael ei rannu'n eang.
Ni wnaeth Eleanor Roosevelt erioed cyfaddef i weld ysbryd Lincoln, ond roedd wedi dweud ei fod wedi teimlo ei bresonoldeb ar sawl achlysur drwy gydol y Ty Gwyn.
Dywedodd Mrs. Roosevelt fod ci'r teulu, Fala, yn cyfarth o dro i dro am ddim rheswm, ond teimlai mai at ysbryd Lincoln yr oedd yn cyfarth ato.
Dywedodd ysgrifennydd gwasg yr Arlywydd Dwight Eisenhower, James Hagerty,[4] a Liz Carpenter, ysgrifennydd gwasg i'r Fenyw Cyntaf Lady Bird Johnson press,[5] eu bod wedi teimlo presenoldeb Lincoln ar sawl achlysur.
Yn ol y son, mae camau y cyn-Arlywydd yn cael eu clywed tu allan i'r Ystafell Wely Lincoln.
Wnaeth Lillian Rogers Parks cyfaddef yn ei bywgraffiad ym 1961, My Thirty Years Backstairs at the White House, ei fod hi wedi clywed camau Lincoln.[6]
Dywedodd Margaret Truman, merch yr Arlywydd Harry S. Truman, ei bod hi wedi clywed rhywun yn cnocio wrth ddrws yr Ystafell Wely Lincoln pan arhosodd hi yna, ac roedd yn credu mai Lincoln oedd e.
Fe ddeffrodd yr Arlywydd Truman oherwydd cnocio wrth y drws pan arhosodd ef yn yr Ystafell Wely Lincoln am noswaith.[7]
Mae nifer o dyst di-enw wedi honni eu bod wedi gweld cysgod Abraham Lincoln yn gorwedd i lawr yn yr Ystafell Wely Lincoln (roedd yr ystafell yn cael ei ddefnyddio fel ystafell cyfarfod yn ystod ei weinyddiaeth), tra bod eraill wedi honni eu bod wedi gweld Lincoln yn eistedd ar ochr y gwely yn rhoi ei esgidiau ymlaen. Y tyst enwocaf i'r olaf o'r ffau oedd Mary Eben, ysgrifenyddes Eleanor Roosevelt, a welodd Lincoln yn dynnu ei esgidiau ymlaen (ar ol hyn, fe rhedodd hi o'r ystafell yn sgrechian).[8][9]
Mae eraill wedi gweld ymddangosiad o'r cyn-Arlywydd. Y person cyntaf i weld enaid Lincoln oedd y Fenyw Cyntaf Grace Coolidge, dywedodd ei bod wedi gweld Lincoln yn sefyll weth ffenestr yn yr Ystafell Hirgrwn Melyn, yn syllu allan at y Potomac.
Mae Theodore Roosevelt[10] a Maureen Reagan a'i gwr[11] i gyd wedi honni eu bod wedi gweld drychiolaeth o Lincoln yn y Ty Gwyn. Mae nifer o aelodau staff o weinyddiaeth Franklin D. Roosevelt wedi honni eu bod wedi gweld enaid Lincoln, ac ar un achlysur, fe redodd gwas personol Rooseverlt o'r Ty Gwyn yn sgrechian ac yn honni ei fod wedi gweld ysbryd Lincoln.
O bosib, yr achlysur enwocaf oedd yr un ym 1942 pan clywodd Wilhelmina of the Netherlands camau tu allan i'w ystafell wely yn y Ty Gwyn ac atebodd cnoc ar y drws, dim on i weld Lincoln mewn cot hir a 'top hat' yn sefyll o'i blaen (fe llywogodd hi'n frydlon).[12]
Roed y Brif Weinidog Winston Churchill yn hoff o ymneilltuo'n hwyr, cymryd bath hir, twym tra'n yfed Scotch, ac ysmygu sigar ac ymlacio. Ar yr achlysur yma, fe ddringodd allan o'r bath, yn noeth ond am ei sigar, cerddodd mewn i'r ystafell wely cyfagos. Cafodd ei ddychryn pan welodd Lincoln yn sefyll wrth y lle tan yn yr ystafell, yn pwyso yn erbyn y fantell. Yn graff iawn bob amser, cymerodd Churchill ei sigar o'i geg, tapiodd y lludu wrth ddiwedd ei sigar y dywedodd "Noswaith dda, Mr. Arlywydd. Mae'n ymddangod eich bod wedi fy nal ar anfantais." Gwenodd Lincoln, fel petai yn chwerthin, yna fe ddiflannodd. Gwenodd Churchill mewn chwithigrwydd.[13]
Yn ol y son, cafodd ysbryd Lincoln ei weld tu allan i'r Ty Gwyn hefyd. Mae yna son yr oedd Lincoln aflonyddu ty yn Loudonville, Efrog Newydd, roedd y ty yn berchen i fenyw oedd yn Theatre Ford pan saethwyd Lincoln gan John Wilkes Booth.Mae ei fedd yn Springfield, Illinois, portread o Mary Todd Lincoln a tren drychiolaeth ar nosweithu ym mis Ebrill ar hyd yr un llwybr dilynodd ei dren angladd o Washington, D.C. i Springfield yn rhai o'r llefydd eraill mae ysbryd Lincoln yn aflonyddu.[14]
Y tro diwethaf welodd rhywun ysbryd Lincoln oedd yn y 1980au cynnar, pan roedd Tony Savoy, blaenwr gweithredoedd y Ty Gwyn, wedi mynd i mewn i'r Ty Gwyn ac wedi gweld Lincoln yn eistedd mewn cadair ar ben ryw grisiau.
Nid ysbryd Abraham Lincoln yw'r unig un mae pobl yn honni eu bod wedi gweld yn y Ty Gwyn. Bu farw Willie Lincoln, mab Abraham Lincoln, yn 11eg mlwydd oed o teiffoid ar yr 20fed o Chwefror 1862.[15]
Gwelwyd ysbryd Willie Lincoln am y tro cyntaf yn y Ty Gwyn yn y 1920au gan aelodau staff gweinyddiaeth Grant, ond mae wedi ei ymddangos mor ddiweddar a'r 1960au (mae merch oed coleg yr Arlywydd Lyndon B. Johnson, Lynda Bird Johnson Robb, yn honni ei bod wedi gweld yr ysbryd ac ei fod wedi sgwrsio gyda fe).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ p. 116–117 of Recollections of Abraham Lincoln 1847–1865 by Ward Hill Lamon (Lincoln, University of Nebraska Press, 1999).
- ↑ "William Stainton Moses collection". College of Psychic Studies. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-18. Cyrchwyd April 29, 2014.
- ↑ Wagner, Stephen. "Presidents and the Paranormal". About.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-10-17. Cyrchwyd 2008-05-04.
- ↑ Alexander, John.
- ↑ Norman, Michael and Scott, Beth.
- ↑ Parks, Lillian Rogers.
- ↑ Thomsen, Brian M. Oval Office Occult: True Stories of White House Weirdness.
- ↑ Pederson, William D. and Williams, Frank J. Franklin D. Roosevelt and Abraham Lincoln: Competing Perspectives on Two Great Presidencies.
- ↑ W. Haden Blackman.
- ↑ Peterson, Merrill D. Lincoln in American Memory.
- ↑ Reagan, Maureen.
- ↑ Belanger, Jeff.
- ↑ Garber, Marjorie B. Profiling Shakespeare.
- ↑ Ogden pp.181,182,227
- ↑ Donald, David Herbert.
Dolenni allanol
golygu- Presidents and the Paranormal Archifwyd 2005-10-17 yn y Peiriant Wayback gan Stephen Wagner ar About.com
- The Paranormal Presidency of Abraham Lincoln gan Christopher Kiernan Coleman (Schiffer Publishing, 2012)