Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Ysbyty Cyffredinol Dosbarth yn Ynysmaerdy, Tonysguboriau, Rhondda Cynon Taf yw Ysbyty Brenhinol Morgannwg (Saesneg: Royal Glamorgan Hospital). Mae’n cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae’n rhan o system gofal iechyd cyhoeddus GIG Cymru.
Enghraifft o'r canlynol | ysbyty |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2000 |
Rhanbarth | Pontypridd |
Gwefan | http://cwmtaf.wales/hospitals/royal-glamorgan-hospital/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguComisiynwyd yr ysbyty i gymryd lle Ysbyty Cyffredinol Dwyrain Morgannwg oedd yn heneiddio.[1] Fe'i hadeiladwyd ar gost o £103 miliwn ac fe'i hagorwyd yn Ngwaun Elai yn 1999.[1] Yn 2017 cyhoeddodd Bwrdd yr Ysbyty y byddai'r Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn cael ei symud i Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.[2]
Gwasanaethau
golyguMae cyfleuster damweiniau ac achosion brys yn yr ysbyty[3] yn ogystal ag uned gofal dwys seiciatrig.[4]
Ehangu gwasanaethau
golyguYn 2016 cyhoeddwyd byddai bron £6 miliwn yn cael ei wario ar gyfer canolfan ddiagnostig newydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg gyda'r disgwyl i'r ganolfan gynnal 7,232 sgan MRI ychwanegol a 6,599 sgan CT ychwanegol y flwyddyn.[5]
Covid-19
golyguNodwyd, fel pob ysbyty, bod pwysau trwm iawn ar yr Ysbyty yn ystod pandemig Covid-19 wrth ddelio gyda chleifion oedd yn dioddeg o Covid-19 a chleifion di-Covid. Roedd staff yn diddef o'r haint.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Historic hospital handover". BBC. 29 November 1999. Cyrchwyd 10 February 2019.
- ↑ "Multi-million pound investment announced into specialist care for babies, maternity services and child health at Prince Charles Hospital in Merthyr Tydfil". Cwm Taf University Health Board (yn Saesneg). 2017-01-13. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-22. Cyrchwyd 2017-01-15.
- ↑ "Royal Glamorgan Hospital Emergency Department". Cwm Taf Morgannwg University Health Board (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-03.
- ↑ "Psychiatric Intensive Care Unit, Royal Glamorgan Hospital". Cwm Taf Morgannwg University Health Board (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-03.
- ↑ "£6 miliwn ar gyfer canolfan ddiagnostig newydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg". Gwefan Llywodraeth Cymru. 22 Tachwedd 2016.
- ↑ "Mae Dr Ceri Lynch yn feddyg gofal dwys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant". Facebook Newyddion S4C. 5 Tachwedd 2020.