Ysgol Bro Hedd Wyn

ysgol yn Nhrawsfynydd, Gwynedd

Ysgol gynradd Gymraeg ym mhentref Trawsfynydd, Gwynedd yw Ysgol Bro Hedd Wyn. Mae'n un o 6 ysgol yn nalgylch Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Fe'i henwir ar ôl y bardd enwog Hedd Wyn, a aned a magwyd yn Nhrawsfynydd. O ganlyniad, dangosa fathodyn yr ysgol ddarlun o gofgolofn Hedd Wyn. Ceir yn yr adeilad 5 ystafell ddosbarth a neuadd ganolog yn ogystal â ffreutur.

Ysgol Bro Hedd Wyn
Mathysgol Gymraeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBlaenau Ffestiniog Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.90107°N 3.92304°W Edit this on Wikidata
Cod postLL41 4SE Edit this on Wikidata
Map

Mae 78 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ôl ffigyrau diweddaraf (Medi 2012)[1] o'i gymharu ag 86 yn 2008.[2] Pennaeth presennol yr ysgol, ers Medi 2000, yw Mrs Heulwen Hydref Jones.

Cyn-ddisgyblion Nodedig golygu

Ffynonellau golygu

  1. Cyngor Gwynedd[dolen marw]
  2. "Cyngor Gwynedd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-07-08. Cyrchwyd 2008-10-23.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato