Ysgol gydaddysgol, gymunedol i ddisgyblion 11-18 oed yw Ysgol Cil-y-Coed (Saesneg: Caldicot School) a leolir ar gyrion tref Cil-y-Coed, Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru ar lan Môr Hafren. Mae'n sefyll mewn 50 erw o dir a cheir pedwar prif bloc lle addysgir y disgyblion yn ogystal â bloc gwyddoniaeth a dwy gampfa. Cyngor Sir Fynwy yw'r awdurdod addysg sy'n gofalu am yr ysgol.

Ysgol Cil-y-Coed
Arwyddair Calon i lwyddo
Sefydlwyd 1959
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Mr Alun Ebenezer
Lleoliad Mill Lane
Cil-y-Coed
Sir Fynwy, Cymru, NP26 5XA
AALl Cyngor Sir Fynwy
Disgyblion 1405
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Gwefan https://www.caldicotschool.com

Mae ei gwefan yn uniaith Saesneg. Dywed ei Pholisi Dwyieithrwydd fod yr ysgol wedi'i ymrwymo i hyrwyddo gweledigaeth ac amcanion Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddatblygu dwyieithrwydd. Dywedodd hefyd ei bod yn cytuno fod y Gymraeg yn perthyn i holl drigolion Cymru, boed yn siarad yr iaith neu beidio.[1] Mae pob plentyn yn astudio'r Gymraeg hyd at TGAU.

Yn 2023, dywedir fod gan 17.2% o'r disgyblion yr hawl i ginio am ddim[2], o'i gymharu ag 28.8% yn genedlaethol[3].

Penaethiaid

golygu
  • Mr W.A Silk 1958-1975
  • Mr C.A. Vanloo 1975-1980
  • Mr J. Norwood 1981-2002[4]
  • Mrs S. Gwyer-Roberts 2002–2019
  • Marc Belli 2019-2022
  • Mr Steven Gretch 2022-2023[5]
  • Mr Alun Ebenezer 2024-[6]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. caldicotschool.com; adalwyd 2 Chwefror 2017; We agree with the statement that "the Welsh language belongs to all the people of Wales, be they Welsh speakers or non-Welsh speakers".
  2. "Caldicot School". mylocalschool.gov.wales. Cyrchwyd 2024-08-05.
  3. "Canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion: Ionawr 2023 [HTML] | LLYW.CYMRU". www.llyw.cymru. 2023-09-19. Cyrchwyd 2024-08-05.
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-12. Cyrchwyd 2017-02-28.
  5. "Head not at school where striking teachers have blackballed pupils". South Wales Argus (yn Saesneg). 2023-10-27. Cyrchwyd 2024-08-05.
  6. "'The headteacher from hell' who has taken over at a Gwent school". South Wales Argus (yn Saesneg). 2024-06-12. Cyrchwyd 2024-08-05.