Ysgol Dafydd Llwyd

Ysgol gynradd cyfrwng Gymraeg yn y Drenewydd yw Ysgol Dafydd Llwyd, ar gyfer plant rhwng 3 ac 11 oed. Hon oedd yr ysgol ddynodedig Gymraeg gyntaf yng ngogledd Powys. Agorwyd ar 28 Medi 2001, gyda Penri Roberts yn brifathro,[2] sef enillydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001.[3] Yn Ionawr 2016 agorwyd ysgol newydd sbon, ar gost o £8.5m ac roedd 250 o ddisgyblion ar y gofrestr.[4]

Ysgol Dafydd Llwyd
Sefydlwyd 2001
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Siân Davies
Lleoliad Lôn y Blanhigfa / Lôn Dolfor, Y Drenewydd, Powys[1], Cymru, SY16 1JF
AALl Cyngor Sir Powys
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–11
Gwefan http://www.dafyddllwyd.powys.sch.uk/

Enwyd yr ysgol ar ôl y bardd Dafydd Llwyd ab Einion a fu'n byw yn yr ardal tua 1446.[5][6]

Yn 2010, adroddodd Estyn fod yr ysgol yn gweithedu mewn pump o adeiladau ar wahân, ar yr un campws a dwy ysgol arall, gan gynnwys dau gaban dros dro.[7] Datganwyd ar 14 Chwefror 2012 y byddai adeilad newydd yn cael ei godi ar ei chyfer gyferbyn â'r ysgol uwchradd.[8] Erbyn 2010, roedd 149 o ddisgyblion yn yr ysgol, gan gynnwys disgyblion oed meithrin amser llawn, a daeth 38% ohonynt o gartrefi ble roedd y Gymraeg yn brif iaith y cartref.[7] Bydd lle i 270 o ddisgyblion yn adeilad newydd yr ysgol.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan swyddogol yr ysgol; adalwyd Mawrth 2016
  2.  Ymddeoliad Penri'r pennaeth. BBC Lleol > Seren Hafren (Awst 2004).
  3.  Rhestr Awduron Cymru: Roberts, Penri. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 15 Chwefror 2012.
  4. countytimes.co.uk;[dolen marw] adalwyd Chwefror 2016
  5.  Newyddion : Pwy oedd Dafydd Llwyd ? Who was Dafydd Llwyd?. Ysgol Dafydd Llwyd (8 Tachwedd 2009).
  6.  Agor ysgol Gymraeg newydd ym Mhowys. BBC Newyddion (28 Medi 2001).
  7. 7.0 7.1  Adroddiad Arolygiad Ysgol Dafydd Llwyd, 2010. Estyn (Rhagfyr 2010). Adalwyd ar 15 Chwefror 2012.
  8. 8.0 8.1  Cymeradwyo ysgol Gymraeg. BBC Newyddion (14 Chwefror 2012).

Dolenni allanol golygu