Ysgol naturiol Gymraeg ym mhentref Gellifor, Rhuthun, Sir Ddinbych ydy Ysgol Bro Gellifor. Yn Nhachwedd 2012 roedd 87 o blant yn yr ysgol, a dim ond 4 lle gwag. Er hyn, cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych eu bwriad i aildrefnu addysg yn y cylch.[1] Arwyddair yr ysgol yw "Cynnau tân y dyfodol". Agorwyd yr ysgol yn 1868 ai hailwampio yn 1986/87. Saesneg yw iaith yr ysgol ond caiff y Gymraeg ei dysgu yno fel pwnc.[2]

Mae'r ysgol yn nhalgylch Ysgol Glan Clwyd. Y Brifathrawes yn Nhachwedd 2012 oedd Susan H. Roberts.

Cyfeiriadau golygu

  1. Denbighshire Free Press; cyhoeddwyd 21 Tachwedd 2012
  2. "Prospectws 2009-2010". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-10. Cyrchwyd 2012-11-24.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato