Ysgol Gyfun Cwm Rhondda

(Ailgyfeiriad o Ysgol Gyfun Cymer Rhondda)

Ysgol Gyfun Gymraeg yw Ysgol Gyfun Cwm Rhondda (gynt, Ysgol Gyfun y Cymer neu Ysgol y Cymer), sydd wedi ei lleoli ym mhentref Y Cymer ger Y Porth yng Nghwm Rhondda yn Rhondda Cynon Taf. Hon yw unig ysgol Gymraeg yng Nghwm Rhondda, ac fe ddaw disgyblion o ledled y cwm. Daw'r mwyafrif o'r ysgolion cynradd canlynol: Ysgol Gymraeg Llyn-y-Forwyn, Ysgol Gymraeg Ynyswen, Ysgol Gymraeg Bodringallt, Ysgol Gymraeg Llwyn Celyn ac Ysgol Gymraeg Bronllwyn.

Ysgol Gyfun Cwm Rhondda
Arwyddair Cais ddoethineb cais ddeall
Sefydlwyd 1988
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mr A. H. Davies
Lleoliad Heol Graigwen, Y Cymer, Y Porth, Rhondda Cynon Taf, Cymru, CF39 9HA
AALl Rhondda Cynon Taf
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Llysoedd Alaw (glas), Englyn (coch), Hafod (melyn)
Lliwiau Glas tywyll, glas golau, melyn
Gwefan https://www.ygcwmrhondda.cymru/

Cyfryngau

golygu

Daeth Ysgol Gyfun y Cymer yn enwog pan ffilmiwyd cyfres Pam fi Duw? ar S4C ar ddiwedd y 90au. Am saith wythnos yn y flwyddyn defnyddiwyd campws yr ysgol i ffilmio'r gyfres, a fe gymrodd hyd at 200 ddisgybl ran fel actorion.

Yn fwy diweddar, ymddangosodd yr ysgol yng nghyfres Cymer Fi ar S4C, cyfres a ddilynodd fywydau chwe disgybl yn eu harddegau gan edrych ar wahanol agweddau o'u bywyd.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.