Ysgol Gyfun Pantycelyn


Ysgol uwchradd yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin yw Ysgol Gyfun Pantycelyn.[1] Adeiladwyd prif adeilad yr ysgol ym 1896, ond mae wedi cael ei ymestyn yn helaeth ers hynny.[2]

Ysgol Gyfun Pantycelyn
Sefydlwyd 1896
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Julie Griffiths
Lleoliad Heol Cilycwm, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA20 0DY
Disgyblion 416 (2005)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Gwefan http://www.pantycelyn.org

Roedd 416 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2005, gan gynnwys 61 yn y chweched ddosbarth. Daw tua 8.5% o'r disgyblion o du allan i dalgylch yr ysgol. Mae'n ysgol gymunedol ddwy-ieithog naturiol, gan fod 35% o'r disgyblion yn dod o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith, a siarada 46% o'r disgyblion y Gymraeg i safon iaith gyntaf.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2  Arolygiad: 14 - 18 Mawrth 2005. ESTYN (31 Mai 2005).
  2.  About Us. Ysgol Gyfun Pantycelyn.

Dolenni allanol golygu