Ysgol Gyfun Traethmelyn
Ysgol gyfun cyfrwng Saesneg yn Nhraethmelyn, Castell-nedd Port Talbot yw Ysgol Gyfun Traethmelyn (Saesneg: "Sandfields Comprehensive School").
Enghraifft o'r canlynol | ysgol |
---|---|
Rhanbarth | Cymru |
Hanes
golyguYsgol Gyfun Traethmelyn oedd yr ysgol gyfun gyntaf i chael ei hadeiladu ar gyfer y pwrpas pan agorwyd ym 1958. Yn 2000, cydnabyddwyd gan Gymdeithas Ysgolion Uwchradd Cymru i fod yr ysgol oedd wedi gwella'n fwyaf yng Nghymru.[1] Mae hefyd wedi cael ei chydnabod fel yr ysgol yng Ngorllewin Cymru sydd â'r canlyniadau TGAU sydd wedi gwella'n fwyaf.[2]
Roedd 702 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2005, i gymharu â 602 ym 1999. Nid oes unrhyw o'r disgyblion yn siarad Cymraeg i safon iaith gyntaf, ond dysgir y Gymraeg fel ail-iaith. Er fod lefel addysgol y disgyblion yn is na'r cyfartaledd pan fyddent yn dechrau yn yr ysgol, mae'r ysgol yn llwyddo i wella'r safon rhywfaint.[2]
Cyn-ddisgyblion
golyguMae nifer o chwaraewyr llwyddiannus wedi mynychu'r ysgol gan gynnwys y pêl-droedwyr Allan Martin[3] a Brian Flynn.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Sandfields Comprehensive School report, 17 – 20 January 2005. Estyn (2005-03-21).
- ↑ 2.0 2.1 Sandfields Comprehensive School 2004-05. Estyn (21 Mawrth 2005).
- ↑ 3.0 3.1 50 year celebrations for Sandfields Comprehensive School. Castell-nedd Port Talbot (2008).