Cymuned ym Mhort Talbot yw Traethmelyn (Saesneg: Sandfields). Hon yw'r ardal i'r Gogledd Ddwyrain o Draeth Aberafan. Enw a ddefnyddid yn aml am ran ogleddol Traethmelyn yw Baglan Moors oherwydd mae'n dir gwastad rhwng hen bentref Baglan a'r môr.

Traethmelyn
Mathmaestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5936°N 3.8031°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Mae yna hefyd ardal yn Abertawe o'r enw Sandfields ac mae rhai (yn cynnwys y swyddfa bost) yn cymysgu'r ddwy.

Llywodraeth

golygu

Mae'r ardal yn cynnwys wardiau etholiadol Gorllewin Traethmelyn a Dwyrain Traethmelyn, sy'n rhan o fwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot.

Amodau cymdeithasol

golygu

Caiff y ddwy ward sy'n cynnwys ardal Traethmelyn eu rhestru ymysg y 50 ward mwyaf amddifad yng Nghymru yn y Mynegai Cymreig o Amddifadiad Amryfal yn 2000.[1] Ym mynegai 2005, roedd Gorllewin Traethmel yn un o'r 10% o wardiau mwyaf amddifad yng Nghymru.[2]

Chwaraeon

golygu

Oherwydd natur tywodlyd y tir nid oedd llawer yn yr ardal cyn i ystâd fawr o dai gael ei hadeiladu ar ôl yr ail ryfel byd. Adeiladwyd y tai ar ben cwrs golff oedd yna yn barod. Oherwydd hynny mae yna glwb golff yn Nhraethmelyn sydd wedi bod heb gwrs am 40 mlynedd.

Treathmelyn yw safle canolfan chwaraeon Lido Afan, a agorwyd gan Elizabeth II ym 1965.[3] Arferai'r ganolfan gynnwys pwll nofio maint cystadleuaeth 50m, a dröwyd yn ddiweddarach yn bwll hamdden 25m gyda sleid dŵr pan ailwampwyd y ganolfan yn ystod yr 1990au. Mae gan y Lido hefyd spa, gym, a neuadd gyngerdd lle mae nifer o fandiau enwog wedi chwarae, gan gynnwys McFly, All Saints, Stereophonics, Manic Street Preachers a'r Lostprophets.

Bu tân mawr ar safle'r Lido ar 16 Rhagfyr 2009 a ddechreuodd yn yr Aquadome.[4] Cafodd trigolion strydoedd cyfagos eu symud o achos ofnau am ddiogelwch cemegion yn y tân a dorrodd trwy to'r ganolfan.[4]

Mae hefyd clwb pêl-droed o'r enw Afan Lido F.C.

Addysg

golygu

Ysgol Gyfun Traethmelyn oedd yr ysgol gyfun gyntaf i gael ei hadeiladu ar gyfer y pwrpas pan agorwyd ym 1958. Yn 2000, cydnabyddwyd gan Gymdeithas Ysgolion Uwchradd Cymru i fod yr ysgol oedd wedi gwella'n fwyaf yng Nghymru.[5] Mae nifer o chwaraewyr llwyddiannus wedi mynychu'r ysgol gan gynnwys Allan Martin[6] a Brian Flynn.[6]

Mae sawl ysgol gynradd yn Nhraethmelyn gan gynnwys Tir Morfa, Tywyn, Ysgol Gynradd Traethmelyn ac Ysgol Gynradd Glanymor, a'r unig ysgol Gymraeg yn nhref Porth Afan, Ysgol Gymraeg Rhosafan.[7]

Archifau Cymunedol Cymru

golygu

Mae Port Talbot Historical Society ac Archifau Cymunedol Cymru yn cyfarfod yn llyfrgell Traethmelyn.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Index of Multiple Deprivation 2000 for Communities First Wards in Neath Port Talbot. Castell Nedd Port Talbot.
  2.  Welsh Index of Multiple Deprivation 2005. Llwyodraeth Cynulliad Cymru (2005).
  3.  TIME LINE 20TH C. Port Talbot Historical Society.
  4. 4.0 4.1  Fire breaks out at Afan Lido poolside in Port Talbot. BBC (16 Rhagfyr 2009).
  5.  Sandfields Comprehensive School report, 17 – 20 January 2005. Estyn (2005-03-21).
  6. 6.0 6.1  50 year celebrations for Sandfields Comprehensive School. Castell Nedd Port Talbot.
  7.  Ysgolion. Castell Nedd Port Talbot.