Brian Flynn

pêl-droediwr

Cyn bêldroediwr a rheolwr pêl-droed Cymreig yw Brian Flynn (ganwyd 12 Hydref 1955). Roedd yn chwaraewr rhyngwladol ac yn reolwr ar dîm cenedlaethol Cymru ond sydd bellach yn Gyfarwyddwr Pêl-droed ar glwb Doncaster Rovers.

Brian Flynn
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnBrian Flynn
Dyddiad geni (1955-10-12) 12 Hydref 1955 (68 oed)
Man geniPort Talbot, Cymru
Taldra5 ft 3½ in (1.61 m
SafleCanol-cae
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1972–1977Burnley120(8)
1977–1982Leeds United154(11)
1982Burnley (ar fenthyg)2(0)
1982–1984Burnley80(11)
1984–1985Dinas Caerdydd32(0)
1985–1986Doncaster Rovers27(0)
1986–1987Bury19(0)
1987Limerick City10(1)
1987–1988Doncaster Rovers24(1)
1988–1993Wrecsam100(5)
Cyfanswm568(37)
Tîm Cenedlaethol
1974–1984Cymru66(7)
Timau a Reolwyd
1989–2001Wrecsam
2002–2004Abertawe
2004–2012Cymru dan 21
2010Cymru (gofalwr)
2013Doncaster Rovers
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Roedd yn reolwr ar dîm pêl-droed dan 21 Cymru o 2004 tan fis Mai 2012[1] a chymrodd yr awennau dros-dro fel rheolwr Cymru wedi i John Toshack ymddiswyddo a chyn i'r Gymdeithas Bêl-droed benodi Gary Speed

Gyrfa chwarae golygu

Clwb golygu

Dechreodd Flynn ei yrfa gyda Burnley gan wneud ei ymddangosiad cyntaf ym 1973-74. Wedi 120 o ymddangosiadau yn y gynghrair, symudodd i Leeds United ym mis Tachwedd 1977. Wedi pum mlynedd yn Elland Road, symudodd yn ôl i Burnley ym mis Tachwedd 1982. Ar ôl 80 o gemau cynghrair dros gyfnod o pedair blynedd, ymunodd Flynn â Dinas Caerdydd ym mis Tachwedd 1984.[2]

Aeth ymlaen i chwarae dros Doncaster Rovers, Bury, Limerick City a Wrecsam[3] a gwnaeth ei ymddangosiad olaf yn y gynghrair ar 3 Tachwedd 1992 pan ddaeth ymlaen fel eilydd yn erbyn Scunthorpe United.[4]

Rhyngwladol golygu

Gwnaeth Flynn ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Lwcsembwrg ym mis Tachwedd 1974[5]. Llwyddodd i ennill 66 cap rhwng 1974 a 1984 gan sgorio 7 gôl.

Gyrfa rheoli golygu

Wrecsam golygu

Cafodd ei benodi'n chwaraewr-reolwr ar Wrecsam ym 1989 cyn gadael Y Cae Ras yn 2001[6]. Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw llwyddodd Wrecsam i ennill Cwpan Cenedlaethol yr FAW ar dair achlysur a daeth y clwb yn enwog am drechu rhai o gewri pêl-droed Lloegr yng Nghwpan FA Lloegr, timau fel Arsenal a West Ham United.[7][8]. Llwyddodd Flynn i sicrhau dyrchafiad i'r Adran Gyntaf[8].

Dinas Abertawe golygu

Cafodd ei benodi'n reolwr ar Abertawe ym mis Medi 2002[9]. Roedd Abertawe ar waelod Y Gynghrair Bêl-droed pan gymrodd yr awenau[10] a bu rhaid disgwyl tan gêm olaf y tymor a buddugoliaeth 4-2 dros Hull City i sicrhau bod Abertawe yn cadw eu lle yn y Gynghrair[10][11]. Collodd Flynn ei swydd ym mis Mawrth 2004 yn dilyn rhediad siomedig o ganlyniadau[12]

Cymru golygu

Ymunodd Flynn â thîm rheoli Cymru yn 2004 fel hyfforddwr tîm pêl-droed dan 21 Cymru[13]. Daeth y tîm o fewn trwch blewyn o gyrraedd Pencampwriaeth UEFA dan 21 Euro 2009 gan golli yn erbyn Lloegr yn y gemau ail gyfle[14].

Yn dilyn ymadawiad John Toshack fel rheolwr Cymru ym mis Medi 2010 cafodd Flynn ei benodi'n reolwr dros dro ar Gymru[15]. Cymerodd ofal o ddwy gêm yn erbyn Bwlgaria[16] a'r Swistir[17].

Ym mis Medi 2012, ni chafodd cytundeb Flynn gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ei adnewyddu [18].

Doncaster Rovers golygu

Ym mis Ionawr 2013 cafodd Flynn ei benodi'n reolwr ar Doncaster Rovers[19] a llwyddodd i arwain y clwb i ddyrchafiad i'r Bencampwriaeth[20]

Yn dilyn dyrchafiad cafodd Flynn ei benodi'n Gyfarwyddwr Pêl-droed ar Doncaster Rovers ond ym mis Awst 2014 gadawodd y clwb[21].

Cyfeiriadau golygu

  1. "Wales under-21 manager Brian Flynn won't get new contract, FAW confirm". 2012-04-26. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Brian Flynn: Burnley FC". Sporting Heroes. Cyrchwyd 4 August 2012.
  3. "Football League Career Stats at Neil Brown".
  4. Rollin (ed), Jack (1993). Rothmans Football Yearbook 1993–94. Headline. ISBN 0-7472-7895-4.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  5. "Wales Match Shirts: Brian Flynn". Wales Match Shitrs. Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Brian Flynn praises Wrexham manager Andy Morrell". BBC. 2012-02-21.
  7. "BRIAN FLYNN LEAVES WREXHAM". www.leaguemanagers.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-15. Cyrchwyd 2013-01-20.
  8. 8.0 8.1 Mark Currie (2012-01-06). "Bryan Flynn so proud of Wrexham FC's FA Cup win over Arsenal". Daily Post. Trinity Mirror North West & North Wales Limited. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-20. Cyrchwyd 2016-01-03.
  9. Tony Rees (2002-09-20). "Flynn sees youth as Swansea's salvation". The Guardian. Guardian News and Media.
  10. 10.0 10.1 "History". www.swanseacity.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-14. Cyrchwyd 2013-01-20.
  11. "Swansea Results 2002/3". www.soccerbase.com.
  12. "Swansea's 10-year trip to the top of the world". Ian Herbert. 2013-01-24. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2016-01-03. Unknown parameter |published= ignored (help)
  13. "Flynn relishing Wales youth role". BBC Sport. 2004-12-06. Unknown parameter |published= ignored (help)
  14. "England U21 2-2 Wales U21 (5-4)". BBC Sport. Unknown parameter |published= ignored (help)
  15. "Flynn accepts Wales caretaker job". BBC News. 2010-09-13.
  16. "Wales 0-1 Bulgaria". WelshFootballOnline. Unknown parameter |published= ignored (help)
  17. "Switzerland 4-1 Wales". WelshFootballOnline. Unknown parameter |published= ignored (help)
  18. "Youth coach Brian Flynn to leave Wales coaching role". BBC Sport. 2012-04-26. Unknown parameter |published= ignored (help)
  19. "Rovers Get Their Men!". Doncaster Rovers official site. 2013-01-17.
  20. "Brentford 0–1 Doncaster". BBC Sport. 2013-04-27.
  21. "Brian Flynn leaves Doncaster Rovers". Doncaster Rovers. 2014-08-05.