Norah Isaac
Awdur ac ymgyrchydd dros addysg Gymraeg oedd Norah Isaac (3 Rhagfyr 1914 – 3 Awst 2003).[1][2] Hi, yn 1939, oedd prifathrawes yr ysgol Gymraeg gyntaf, ac ysbrydolodd lawer o bobl ifanc yn yr ymgyrch dros addysg Gymraeg a thros y theatr yng Nghymru. Roedd hi yn gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol - yr unig fenyw i dderbyn yr anrhydedd.
Norah Isaac | |
---|---|
Ganwyd | 3 Rhagfyr 1914 ![]() Caerau ![]() |
Bu farw | 3 Awst 2003 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr ![]() |
Fe'i ganed yn 71 Heol Treharne, ym mhentref Caerau, ger Maesteg yn yr hen Sir Forgannwg ond roedd ei gwreiddiau'n ddwfn yn ardal Drefach Felindre, Sir Gaerfyrddin; roedd yn ferch i David Isaac a'i wraig Margaret (née Jones). Derbyniodd ei haddysg yng ngholeg hyfforddi Morgannwg, y Barri.[3][4]
GyrfaGolygu
Yn 1935 cafodd ei phenodi'n drefnydd Sir Forgannwg, Urdd Gobaith Cymru a gweithiodd yno tan ei phenodiad yn brifathrawes yr ysgol Gymraeg gyntaf yng Nghymru, sef Ysgol Gymraeg Aberystwyth a agorodd ar 25 Medi 1939; gweithiodd yno tan 1949 a chododd nifer y disgyblion o 7 i 24. Cydweithiodd lawer gyda sefydlydd yr Urdd, Syr Ifan ab Owen Edwards, a roddodd lawer o'i amser hefyd yn hyrwyddo addysg Gymraeg; ysgrifennodd fywgraffiad arno. Treuliodd gyfnod fel darlithydd yng Ngholeg y Barri (1950-195) cyn symud i fod yn Brif Ddarlithydd Drama a'r Gymraeg yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin gan ddylanwadu ar sawl cenhedlaeth o fyfyrwyr. Yno, sefydlodd Norah yr Adran Ddrama Gymraeg gyntaf erioed mewn Coleg.
CyhoeddiGolygu
Cyfrannodd nifer o sgriptiau radio i'r BBC dros y blynyddoedd. Bu'n Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin, 1974. Cyhoeddodd lawer o lyfrau gan gynnwys straeon byrion, teithlyfr ar ei hymweliad â Brasil, yr Ariannin a Cholombia a nifer o ddramâu am gewri'r genedl fel Iolo Morgannwg, Griffith Jones, Llanddowror a William Williams, Pantycelyn.
GwobrauGolygu
Yn 1995 derbyniodd Radd Doethur er Anrhydedd Prifysgol Cymru a dyfarnwyd Medal y Cymmrodorion iddi yn 2003, ond bu farw cyn ei derbyn.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Papurau Norah Isaac. Llyfrgell Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 2 Chwefror 2016.
- ↑ "Marw Norah Isaac" (yn Welsh). bbc.co.uk. 3 Awst 2003. Cyrchwyd 7 Ebrill 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Stephens, Meic, gol. (1998). The New Companion to the Literature of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 353. ISBN 0-7083-1383-3.
- ↑ Papurau Norah Isaac ar Wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 3 Gorffennaf 2015