Ysgol Gymunedol Penderyn

Ysgol gynradd yw Ysgol Gymunedol Penderyn sydd wedi ei leoli ar y brif ffordd ym Mhenderyn, ger Hirwaun, Aberdâr. Mae'n ysgol ddwyieithog sydd wedi'i rhannu'n ddwy uned yn ôl iaith; darperir addysg gynradd lawn drwy naill ai gyfrwng y Gymraeg neu gyfrwng y Saesneg.[1]

Agorwyd yr ysgol ar ei newydd wedd ym mis Ionawr 2007, gyda lle i 240 o blant. Cyfranwyd tua £4,000 o bunnau gan gyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r adeilad newydd yn un sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd gyda nifer o dechnolegau newydd 'gwyrdd' yn cael eu defnyddio gan gynnwys boeler biomass, system dŵr poeth solar a cynaeafu dŵr glaw, labordy-eco ac unedau ail-gylchu.[2]

Ffynonellau golygu

  1. " £4m eco school opens, gwefan Rhondda Cynon Taf". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-28. Cyrchwyd 2007-07-16.
  2. Parents preview new Penderyn Community School Archifwyd 2007-10-25 yn y Peiriant Wayback. 20 Rhagfyr 2006