Ysgol Gynradd Bryn Celyn

Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg yn ardal Pentwyn, Caerdydd ydy Ysgol Gynradd Bryn Celyn (Saesneg: Bryn Celyn Primary School). Y prifathro presennol yw Mr David C. Pedwell.[2] Lleolir yn nhalgylch Ysgol Uwchradd Llanedeyrn.[3][4]

Ysgol Gynradd Bryn Celyn
Bryn Celyn Primary School
Arwyddair To progress with purpose and pride[1]
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth David C. Pedwell
Lleoliad Glyn Collen, Pentwyn, Caerdydd, Cymru, CF23 7ES
AALl Cyngor Caerdydd
Oedrannau 3–11
Gwefan http://www.bryncelynprm.cardiff.sch.uk

Ad-drefnu addysg yng Nghaerdydd golygu

Yng ngwanwyn 2006, cyhoeddwyd cynlluniau ad-drefnu addysg Cyngor Caerdydd, cynnigwyd cau'r ysgol ym mis Medi 2008,[4] gan ddymchwel yr adeiladau a pharatoi'r tir i gael ei wethu a'i ailddatblygu ar gost o £92,000.[3] Ond, yn 2007 yn ystod yr ymgynghori statudol ynglŷn â cynyddu darpariaeth addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn y ddinas, cafodd y syniad o addasu'r ysgol ei grybwyll, er mwyn ei creu un a dderbyniai un dosbarth cyfrwng Saesneg, ac un dosbarth Cymraeg y flwyddyn. Gan, mewn effaith, greu dwy ysgol arwahan ar un safle.[5]

Ar 5 Rhagfyr 2008, cyhoeddodd y Cynulliad gynnig i drosglwyddo'r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sydd i'w sefydlu ar ran o safle Ysgol Gynradd Gatholig St Philip Evans i ran o safle Ysgol Gynradd Bryn Celyn. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau a gweithredwyd y cynnig ym mis Medi 2009, gan agor Ysgol Gynradd Gymraeg Pen-y-Groes.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Archif gwefan Ysgol Gynradd Bryn Celyn. Internet Wayback Machine. Adalwyd ar 3 Chwefror 2010.
  2.  School Details: Bryn Celyn Primary School. Cyngor Caerdydd. Adalwyd ar 3 Chwefror 2010.
  3. 3.0 3.1  Moira Sharkey (18Ebrill 2006). The cost of Cardiff's school reforms. South Wales Echo.
  4. 4.0 4.1  Manylion ad-drefnu ysgolion Caerdydd. BBC (5 Ebrill 2006).
  5.  Datganiad i'r Wasg: YR IS-BWYLLGOR YSGOLION YN CYTUNO AR ARGYMHELLION. Cyngor Caerdydd (9 Tachwedd 2007).
  6.  Ysgol Gynradd Bryn Celyn. Llywodraeth Cynulliad Cymru (5 Rhagfyr 2008).

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.