Ysgol Gymunedol Gwenlli

(Ailgyfeiriad o Ysgol Gynradd Gwenlli)

Ysgol gynradd gymunedol ddwyieithog yng nghymuned Synod Inn, Ceredigion oedd Ysgol Gymunedol Gwenlli.

Ysgol Gymunedol Gwenlli
Enghraifft o'r canlynolysgol gynradd Edit this on Wikidata
RhanbarthCeredigion Edit this on Wikidata

Sefydlwyd ysgol yn Synod Inn gyntaf ym 1866, ond mewn hen fwthyn, tebycach i ysgubor, o'r enw Cnwc y Pwrpas y darparwyd yr addysg. Saif hwnnw tua 200 llath o groesffordd Synod Inn tuag at Llanarth.[1][2]

Agorwyd Ysgol Gwenlli ar 20 Ebrill 1877, er nad oedd yr adeilad wedi ei gwblahu. Roedd un ystafell wedi ei chynllunio ar gyfer 70 o blant. Roedd 17 o ddisgyblion ar y gofrestr ac 11 yn bresennol ar y diwrnod cyntaf yng nghofal y prifathro Thomas Cadwalader Evans, ac athrawes gwnio, Miss Mary Evans.[1] Codwyd cloch yn 1902 ac roedd hwn yn dal yno 125 mlynedd yn ddiweddarach. Penderfynnwyd bod angen ystafell ychwanegol a dechreuodd y gwaith arni ym 1903, ond ni gwblhawyd hyd 1911.[2]

Roedd 31 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol yn 2003. Daeth 50% ohonynt o gartrefi lle roedd y Saesneg yn brif iaith, ond roedd 80% ohonynt yn siarad Cymraeg i safon cyfatebol ac iaith gyntaf. Roedd adroddiad Estyn o 1998 yn disgrifio rhai agweddau o'r addysg a ddarparwyd yn anfoddhaol, a doedd dim digon o ddefnydd o'r Gymraeg. Nid oedd yr adeiladau bellach yn addas chwaith, nid oedd neuadd yn yr ysgol o gwbl, na thoiledau yn y brif adeilad.[3]

Caewyd yr ysgol ym mis Ionawr 2010, ynghyd ag Ysgol Gymunedol Llanllwchaearn ac Ysgol Gymunedol y Castell, Caerwedros, gydag ysgol newydd Ysgol Bro Siôn Cwilt yn Synod Inn yn cymryd eu lle.[4][5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1  Farewell and diolch Ysgol Gwenlli. Cambrian News (17 Medi 2009).
  2. 2.0 2.1  Mystery at Ysgol Gwenlli. Cambrian News (9 Mai 2002).
  3.  Gareth W. Roberts (8 Rhagfyr 2003). Adroddiad Adolygiad Ysgol Gymunedol Gwenlli, 6–8 Hydref 2003. Estyn. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006.
  4.  Ysgol Gwenlli, Ysgol Llanllwchaearn, Ysgol Gynradd y Castell Caerwedros ac Ysgol Bro Sion Cwilt. Llywodraeth Cynulliad Cymru (20 Ionawr 2009).
  5.  New school opens in Ceredigion after education shake up. BBC (5 Ionawr 2010).