Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon

Ysgol gynradd Gymraeg yn Abercynon, ger Pontypridd ydy Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon. Agorwyd yr ysgol yn 1989. Mae'n gwasanaethu ardal Abercynon ac ardaloedd cyfagos Cwm Cynon, sef Ynysboeth, Penrhiwceibr, Aberpennar a'r cyffiniau. Roedd 327 o ddisgyblion, gan gynnwys 59 o blant meithrin, yn yr ysgol yn 2006 i gymharu â 264 yn 2000. Ni ddaw unrhyw o'r plant o gartrefi lle mae Cymraeg yn brif iaith ond nôd yr ysgol yw cael y plant yn ddwyieithog erbyn iddynt fynd ymlaen i'r ysgol uwchradd.[1]

Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon
Enghraifft o'r canlynolysgol gynradd Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata

Yn ogystal â chael ei beirniadu'n ysgol dda yn adroddiad Estyn, mae disgyblion yr ysgol hefyd wedi cael tipyn o lwyddiant yng nghystadleuaeth rygbi'r Urdd.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.