Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell

Ysgol gynradd Cymraeg yng Nghaerffili ydy Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell. Er mai Cymraeg yw prif iaith yr ysgol, yn swyddogol mae hi'n ysgol ddwyieithog ddynodedig. Mae'n gwasanaethu plant rhwng 3 ac 11 oed.[1]

Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell
Enghraifft o'r canlynolysgol gynradd, ysgol Gymraeg Edit this on Wikidata
LleoliadCaerffili Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthCaerffili Edit this on Wikidata
Ysgol Gymraeg y Castell, Caerffili (2024)

Agorwyd ym 1995 gyda 118 o ddisgyblion, ar hen safle Ysgol Ramadeg y Merched. Erbyn 2008, roedd 355 o ddisgyblion ar y gofrestr gan gynnwys 47 o blant meithrin. Dim ond 10% o'r disgyblion ddaeth o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith. Disgrifwyd safon yr addysg mewn adroddiad Estyn yn 2004 yn gyffredinol fel da, ac yn foddhaol neu'n dda iawn mewn sawl maes.[1]

Mae talgylch yr ysgol yn cynnwys Bedwas, Machen, Trethomas, Graig y Rhacca, Llanbradach a rhannau o Gaerffili.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.